Hayes & Yeading 1 – 2 Casnewydd
Mae Casnewydd wedi codi i’r seithfed safle yn yr Uwch Gynghrair Blue Square yn dilyn buddugoliaeth oddi cartref yn erbyn Hayes & Yeading neithiwr.
Mae tîm Dean Holdsworth wedi creu cryn argraff yn eu tymor cyntaf yn y gynghrair yn dilyn dyrchafiad llynedd, a hon oedd eu pedwaredd fuddugoliaeth o’r tymor.
Dod nôl o gôl i lawr
Mae Casnewydd hefyd ar rediad o wyth gêm heb golli, ond roedd eu rhediad yn y fantol ar un adeg neithiwr.
Roedd yr hanner cyntaf ar Church Road yn un i’w anghofio wrth i’r ymwelwyr chwarae’n ddifrifol o wael a Hayes oedd yn arwain 1-0 ar yr hanner. Daeth y gôl honno i Michael Malcolm wedi 39 munud wrth i Gasnewydd fethu â chlirio croesiad i’r blwch gan roi cyfle hawdd i Malcolm sgorio dwy lath o’r gôl.
Yr ymwelwyr yn brwydro nôl
Mae’n amlwg bod Holdsworth wedi rhoi pregeth i’w tîm ar yr egwyl ac o fewn deg munud i’r hanner roedd Casnewydd ar y blaen.
Daeth Craig Reid â’r sgôr yn gyfartal wedi dim ond dwy funud o’r hanner gyda pheniad o groesiad o’r chwith gan Sam Foley. Hon oedd seithfed gôl Reid o’r tymor.
Roedd Foley yn achosi pob math o broblemau ar yr asgell chwith erbyn hyn, ac arweiniodd croesiad ganddo rai munudau’n ddiweddarach at gyfle arall i Reid, ond aeth ei ergyd heibio’r postyn pellaf.
Arweiniodd rhediad bygythiol arall gan Foley at gic gornel i Gasnewydd wedi 55 munud. Cymerodd Charlie Henry’r gornel yn ddwfn i’r postyn pellaf ble wnaeth y capten Gary Warren ei benio i’r rhwyd.
Casnewydd oedd y tîm gorau weddill yr hanner a daeth cyfleoedd eraill i Foley, Reid a Robbie Matthews cyn diwedd y 90 munud ond roedd dwy gôl yn ddigon i sicrhau’r tri phwynt i ddynion Gwent.