Wrecsam 2-1 Southport
Mae rhediad diguro Wrecsam wedi ymestyn i saith gêm, ond yn bwysicach na hynny fe lwyddon nhw i ennill eu trydedd gêm o’r tymor yn erbyn Southport neithiwr.
Dim ond dwy gêm mae tîm Dean Saunders wedi eu colli eleni, ond mae cyfres o gemau cyfartal wedi golygu rhwystredigaeth i’r cefnogwyr sy’n awchu am godi o Uwch Gynghrair Blue Square.
Bydd y fuddugoliaeth ar y Cae Ras neithiwr yn sicr o roi hwb i hyder y tîm a’r cefnogwyr.
Wrecsam yn rheoli
Y tîm cartref oedd yn rheoli’r hanner cyntaf ac fe’u gwobrwywyd â dwy gôl dda.
Daeth y gôl gyntaf i’r ymosodwr rhyngwladol Gareth Taylor wedi 27 munud yn dilyn gwaith da gan Andy Mangan a Jay Harries.
Roedd y frwydr yn cael ei hennill gan Wrecsam yng nghanol y cae wrth i Harries, Dean Keates a Jamie Tolley redeg y sioe i’r tîm cyntaf.
Ergyd gan Tolley arweiniodd at ail gôl Wrecsam wedi 41 munud. Tro Gareth Taylor i greu oedd hi’r tro yma wrth i’w bas roi cyfle i Tolley ergydio. Llwyddodd y golwr, Tony McMillan i arbed yn dda ond roedd Jay Harries gerllaw i rwydo’r bêl rydd.
Ail hanner nerfus
Fe ddylai Wrecsam fod wedi mynd ymhellach ar y blaen wedi’r hanner, ond fel ag yr oedd hi fe frwydrodd Southport eu ffordd yn ôl mewn i’r gêm.
Llwyddodd yr ymwelwyr i gipio gôl wedi 63 munud trwy beniad Steve Daly o groesiad Paul Barratt, ond dal ymlaen i’r gôl o wahaniaeth wnaeth amddiffyn Wrecsam gan danio gobaith y cefnogwyr fod cyfle am ddyrchafiad eleni wedi’r cyfan.