Mae tîm Gemau’r Gymanwlad Cymru wedi rhyddhau datganiad sy’n awgrymu na fydden nhw’n cymryd rhan yn y gemau eleni os nad oes sicrwydd bod y cyfleusterau yn saff.
Ddoe chwalodd bont gerllaw’r brif stadiwm yn Delhi gan anafu 25 o bobol, ac fe ddaeth i’r amlwg nad oedd llety’r athletwyr wedi ei orffen er eu bod nhw’n cyrraedd diwedd yr wythnos.
Heddiw daeth i’r amlwg bod rhan o do Stadiwm Jawahar Lal Nehru wedi chwalu i lawr ar y man lle fyddai’r athletwyr wedi bod yn cystadlu.
Dywedodd y tîm fod gan drefnwyr y gemau tan y pnawn yma er mwyn cadarnhau bod pob adeilad yn saff i gael eu defnyddio.
“Ar ôl y newyddion ddoe bod pont wedi chwalu a nawr to’r adeilad fydd yn cynnal y gystadleuaeth codi pwysau, rydan ni wedi cymryd cam yn ôl er mwyn asesu pa mor saff yw hi i ddod ag athletwyr i mewn i’r amgylchedd yma.
“Iechyd a diogelwch ein tim ni yw ein blaenoriaeth bennaf – a dyna pam ein bod ni mor awyddus i ddatrys y problemau gyda llety’r athletwyr.”
Os nad yw’r adeiladau yn barod i’w defnyddio fe fyddan nhw’n rhoi gwybod i’r athletwyr, a fydd yn penderfynu a fyddan nhw’n cystadlu ai peidio.