Mae rheolwr Abertawe, Brendan Rodgers, wedi clodfori ei asgellwr Scott Sinclair ar ôl iddo sgorio tair gôl oddi cartref yn erbyn Peterborough neithiwr.

Roedd goliau’r chwaraewr 21 oed, a brynwyd gan Chelsea am £500,000, yn ddigon i sicrhau lle i’r Elyrch ym mhedwaredd rownd Cwpan Carling.

Sgoriodd Sinclair ar ôl pum munud ond unionodd Craig Mackail-Smith o Peterborough y sgôr munud yn ddiweddarach.

Ond tarodd Sinclair eto pedwar munud cyn yr hanner cyn sgorio’i drydedd ar ôl 78 munud.

‘Dod o hyd i gartref’

Datgelodd Brendan Rodgers ar ôl y gêm ei fod o wedi treulio oriau ar y ffôn gyda’r chwaraewr i’w argyhoeddi i ddod draw i Abertawe.

“Mae o dal yn blodeuo. Mae o’n gwella gyda bob gêm ac yn dechrau aeddfedu,” meddai Brendan Rodgers. “Mae o’n dal i ddatblygu ac fe fydd o’n gwella eto.

“Ar hyn o bryd mae o’n edrych fel pe bai o’n mynd i sgorio ym mhob gêm mae o’n ei chwarae. Mae o’n gwybod bod rhaid iddo ddysgu ond mae o’n hogyn da.

“Rydw i’n nabod yr hogyn a’i ffordd o feddwl yn dda. Fe wnaethon ni gadw mewn cysylltiad pan adawais i Chelsea. Roedd o’n dalent mawr pan gyrhaeddodd o’r clwb yn 17 oed ond roedd o allan ar fenthyciad o hyd i dimoedd lle nad oedd o’n chwarae.

“Pan ydach chi’n 20 neu 21, mae angen chwarae. Mae Scott wedi bod ar fenthyg i glybiau oedd yn mynd drwy gyfnodau anodd. Doedd o ddim yn cael y cyfle.

“Roedd angen iddo ddod o hyd i gartref. Fe dreuliais i oriau gyda fo ar y ffôn i’w argyhoeddi o mai Abertawe oedd y lle i fod.

“Mae o wedi bod yn ymlacio ers dwy flynedd. Nawr mae o eisiau chwarae bob gêm. Mae o eisiau sgorio goliau, ac mae o wrth ei fodd yn Abertawe.”