Mae rhai o aelodau mwyaf blaenllaw Plaid Cymru yn gobeithio y bydd yr AC Bethan Jenkins yn cael ei disodli ar y rhestr ranbarthol cyn yr etholiad y flwyddyn nesaf.
Mae hi’n wynebu her am ei lle ar restr ranbarthol Gorllewin De Cymru gan ymgeisydd Plaid yn sedd Llanelli yn yr Etholiad Cyffredinol, Dr Myfanwy Davies.
Yn ôl y Western Mail mae arweinydd seneddol y blaid, Elfyn Llwyd, yn ogystal â’r ACau Helen Mary Jones, Nerys Evans a’r cyn AC Janet Davies yn cefnogi ymgais Myfanwy Davies i gymryd ei lle.
Ond dywedodd Bethan Jenkins fod ganddi gefnogaeth Leanne Wood, Gareth Jones, Rhodri Glyn Thomas, Dafydd Iwan a’r Llywydd Dafydd Elis-Thomas.
Fe fydd yr ymgeiswyr ar gyfer y seddi yn cael eu dewis fis nesaf. Mae disgwyl i’r etholiad gael ei gynnal ar 5 Mai’r flwyddyn nesaf.
Dan reolau newydd y blaid bydd yr ymgeisydd sy’n ennill y mwyaf o bleidleisiau yn mynd ar frig y rhestr ranbarthol. Bydd yr ail safle yn mynd i aelod o’r rhyw arall.
Roedd y rheol ‘merched yn gyntaf’ yn 2007 yn golygu bod Bethan Jenkins ar dop y rhestr ranbarthol a Dr Dai Lloyd yn ail, er ei fod o wedi sicrhau 62 pleidlais a hithau wedi cael 14 yn unig.
Eleni mae disgwyl i Dai Lloyd fod ar y brig a bydd rhaid i Bethan Jenkins a Dr Myfanwy Davies frwydro am yr ail safle. Does dim disgwyl i Blaid Cymru ennill trydedd sedd ranbarthol.
(Llun: Myfanwy Davies)