Mae Aelod Seneddol wedi dweud y bydd o’n cyfeirio’r Ysgrifennydd Diwylliant at awdurdodau Tŷ’r Cyffredin tros fater toriadau S4C.
Mae AS Caerfyrddin, Jonathan Edwards yn honni ei fod o wedi ei gamarwain ynglŷn â pharodrwydd S4C i dderbyn toriadau o £2m.
Roedd Jeremy Hunt wedi dweud wrth Jonathan Edwards ym mis Mehefin bod yr Adran Ddiwylliant a S4C wedi “cytuno ar y cyd” i dorri £2 filiwn o gyllideb £100 miliwn y sianel o fewn y flwyddyn ariannol yma.
Mae gohebiaeth a ddaeth i law Plaid Cymru drwy’r ddeddf rhyddid gwybodaeth yn dangos bod Cadeirydd Awdurdod S4C, John Walter Jones, wedi dweud ar y pryd bod y toriadau’n anghyfreithlon.
Mae’r Adran Diwylliant yn dal i honni bod y toriadau wedi eu cytuno ar y cyd gyda S4C.
“Rhaid i’r ysgrifennydd gwladol ymddiheuro,” meddai Jonathan Edwards, gan ddweud bod ateb Jeremy Hunt yn “gamarweiniol ar ei orau”.
“Mae’n fater difrifol iawn bod gweinidog a’i adran yn ffeithiol anghywir wrth ymateb i ASau.”
Serch hynny mae’r ohebiaeth yn awgrymu bod cyn brif weithredwr y sianel, a ymddiswyddodd ym mis Gorffennaf, wedi dangos parodrwydd i dderbyn y toriadau.