Mae’r Gweinidog Iechyd Edwina Hart wedi gwadu honiad gan wrthblaid ei bod hi wedi camarwain y Cynulliad ynglŷn ag ymchwil cwmni i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Ddoe honnodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, bod y cwmni ymgynghori McKinsey wedi adnabod methiannau mawr yn y gwasanaeth iechyd.

Roedd ACau y gwrthbleidiau wedi galw ar Edwina Hart i ryddhau adroddiad y cwmni yn y gorffennol, ond roedd hi wedi dweud ar y pryd nad oedd “dogfen ffurfiol i’w archwilio”.

Ond dywedodd Kirsty Williams ei bod hi wedi cael gafael ar ddogfen “cyfyngedig” oedd yn dangos bod y cwmni wedi cynhyrchu adroddiad wedi’r cwbl.

Mae’r ddogfen yn feirniadol iawn ynglŷn ag arweinyddiaeth y gwasanaeth iechyd gwladol, gan ddweud bod mentrau Llywodraeth y Cynulliad yn “anfforddiadwy”.

“Rhaid i’r Llywodraeth yma gymryd cyfrifoldeb dros ei fethiannau ac mae’n gwbl annerbyniol bod y Gweinidog Iechyd wedi camarwain Aelodau’r Cynulliad a phobol Cymru er mwyn ei hamddiffyn ei hun,” meddai Kirsty Williams.

Ond dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Cynulliad heddiw “nad yw’r gweinidog wedi camarwain unrhyw un. Does yna ddim adroddiad gan McKinsey”.

Ychwanegodd bod y ddogfen oedd yn nwylo Kirsty Williams yn cynnwys dadansoddiad o sawl ffynhonnell wahanol, gan gynnwys McKinsey.

“Mae’r gweinidog wedi bod yn gwbl dryloyw drwy gydol y broses.”

Ychwanegodd bod cynllun pum mlynedd a gyhoeddwyd ym mis Mai yn “tanlinellu’r her” sy’n wynebu’r gwasanaeth iechyd.