Mae dynion ar gefn beic modur wedi saethu dyn o Brydain yn farw yng ngogledd y Pilipinas.
Mae’n debyg mai dyma’r ail ymosodiad o’i fath o fewn dau ddiwrnod ar dramorwyr yn y wlad. Cafodd Americanwr ei saethu’n farw ddydd Llun, yn ninas ddeheuol Iligan.
Yn ôl yr adroddiadau, roedd Bruce Anthony Jones, 50, yn teithio gyda’i wraig mewn car yn ninas Angeles ddoe ar ei ffordd i gyfarfod cyfaill, pan gafodd ei saethu gan ddau ddyn ar feic modur.
Cafodd ei wraig, sydd yn dod o’r Pilipinas, hefyd ei hanafu yn ystod yr ymosodiad.
Mae’r uwch-arolygydd heddlu lleol, Danilo Bautista, wedi dweud fod Bruce Anthony Jones yn byw mewn dinas gyfagos o’r enw Olongapo.
Dywedodd nad oedd rheswm amlwg pam eu bod nhw wedi ei dargedu ac nad oedden nhw’n gwybod eto pwy oedd yn gyfrifol.