Mae’r dyn sy’n rheoli’r panel annibynnol fydd yn penderfynu ar gostau a thal Aelodau’r Cynulliad wedi dweud y bydd yn “llym ond yn deg”.
Cafodd cyn Lywydd Senedd yr Alban, George Reid, ei enwi’n gadeirydd Bwrdd Taliadau Annibynnol y Cynulliad Cenedlaethol heddiw.
Fe fydd ef a’r pedwar aelod arall yn penderfynu faint o arian sydd ar gael ar gyfer tâl, pensiynau, costau teithio, llety, swyddfeydd etholaeth a staff yr Aelodau Cynulliad.
Mae disgwyl i’r bwrdd gwrdd am y tro cyntaf fis nesaf ac fe fydden nhw’n adrodd yn ôl mewn da bryd ar gyfer Etholiad y Cynulliad flwyddyn nesaf.
Dywedodd George Reid bod rhaid i’r system fod yn “dryloyw ac atebol” ac y bydd ei fwrdd yn ystyried tâl Aelodau Seneddol meinciau cefn San Steffan, sef £53,852, fel man cychwyn wrth benderfynu faint y dylai ACau gael eu talu.
Tai hwyaid
Llwyddodd Senedd yr Alban i osgoi’r sgandal costau yn San Steffan a’r Cynulliad drwy gyhoeddi manylion costau bod Aelod o Senedd yr Alban ar-lein, meddai.
“Does neb yn hawlio am dy i’w hwyaid os ydyn nhw’n gwybod bod y manylion yn mynd i fod ar gael ar y we,” meddai. “Rydw i’n ceisio bod yn llym ond yn deg.”
Dywedodd nad oedd pobol wedi dechrau rhoi eu ffydd mewn gwleidyddion eto ers y sgandal costau, ond y gallai’r sefydliadau datganoledig ymateb yn gyflymach i’r sgandal.
“Rydw i’n meddwl ein bod ni’n ffodus ym Mae Caerdydd a’r Alban. Fe gymerodd amser i’r agwedd tuag at gostau ddatblygu yn San Steffan ac fe fydd hi’n cymryd amser i’w newid.
“Ar adeg pan mae ffydd mewn gwleidyddion mor isel, rydw i wrth fy modd yn cael bod yn rhan o ymdrech Llywodraeth y Cynulliad i adfer ffydd yn y broses ddemocrataidd.
“Ein swyddogaeth ni fel bwrdd fydd sicrhau bod gan bob AC yr adnoddau sydd ei angen arnyn nhw er mwyn cynnal eu hunain, tra ar yr un pryd yn gwneud yn siŵr bod pobol Cymru yn gwybod bod eu hadnoddau cyhoeddus yn cael eu defnyddio’n effeithiol.”
Dywedodd Llywydd y Cynulliad, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas ei fod o wrth ei fodd “ein bod ni wedi gallu penodi cadeirydd ac aelodau i’r bwrdd sydd o’r fath safon uchel.
“Mae’n gam hanfodol yn ein hymroddiad hirdymor tuag at sicrhau bod pobol Cymru yn gallu rhoi eu ffydd mewn democratiaeth yng Nghymru.”