Fe fydd yr Ysgrifennydd Busnes Vince Cable yn defnyddio ei araith ar ddiwrnod olaf cynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol heddiw er mwyn ymosod ar gyfalafiaeth heb ei reoli.
Mae arweinyddiaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn gobeithio y bydd yr araith yn lleddfu ofnau bod y blaid wedi symud yn rhy bell i’r dde ers clymbleidio gyda’r Ceidwadwyr yn San Steffan.
Fe fydd Vince Cable yn cyhoeddi ymchwiliad i fyd “tywyll” corfforaethau mawr, ac yn beirniadu’r marchnadoedd “afresymol”.
Yn ogystal â hynny fe fydd o’n honni bod cyfalafiaeth heb ei ffrwyno yn “lladd cystadleuaeth”.
“Dyw’r Llywodraeth yma ddim yn mynd i adael llonydd i’r cwmnïau na’r marchnadoedd. Rydw i’n mynd i daflu golau llachar i fyd tywyll y corfforaethau.”
Mae’r araith eisoes wedi ei feirniadu gan Gyfarwyddwr y CBI, Richard Lambert, am ei “iaith emosiynol”.
“Mae trosfeddiannu corfforaethol yn caniatáu i gwmnïau effeithlon gael gafael ar gwmnïau sy’n cael eu rheoli’n wael ,” meddai.
“Mae gan Vince Cable bethau cas iawn i’w dweud ynglŷn â chyfalafiaeth – fe fydd hi’n ddiddorol clywed ei syniadau ynglŷn â system i gymryd ei le.”