Rhaid i Lywodraeth San Steffan “esbonio eu hunain” ar ôl penderfynu torri cyllideb S4C, meddai’r Prif Weinidog Carwyn Jones heddiw.
Daw hyn ar ôl i Blaid Cymru ryddhau gohebiaeth sy’n dangos bod cadeirydd awdurdod y sianel wedi dadlau y byddai’n anghyfreithlon i S4C roi rywfaint o’i gyllideb yn ôl i Lywodraeth San Steffan.
Dywedodd yr Adran Diwylliant yn Whitehall heddiw bod S4C wedi cytuno i dorri £2 miliwn o’i gyllideb £100 miliwn o fewn y flwyddyn ariannol yma, ond mae’r ohebiaeth yn awgrymu fel arall.
“Rhaid i Lywodraeth San Steffan esbonio eu hunain yn dilyn y newyddion ddaeth i’r amlwg bore ma ynglŷn a paradorwydd S4C i leihau ei nawdd,” meddai Carwyn Jones.
“Ar yr olwg gyntaf mae’n ymddangos fel pe bai beth ddywedodd y gweinidog wrth Senedd San Steffan yn anghywir. Mae’n amlwg bod angen egluro hynny.”
Yr ohebiaeth
Mewn llythyr ar yr Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt, ym mis Mai, dywedodd cadeirydd Awdurdod S4C, John Walter Jones, bod cyngor cyfreithiol yn dangos nad oedden nhw’n gallu dychwelyd unrhyw ran o gyllideb y sianel.
Ymatebodd Jeremy Hunt ei fod o’n deall bod y sianel wedi cytuno i’r toriadau fel rhan o arbedion effeithlonrwydd Llywodraeth San Steffan a’i fod o’n “ddiolchgar iawn i’r Awdurdod am wirfoddoli i hyn”.
Y diwrnod canlynol ymatebodd John Walter Jones gan ddweud: “Rhaid i mi wneud hyn yn glir tu hwnt i amheuaeth, bod yr Adran Ddiwylliant wedi dewis cymryd y risg o atal £2 miliwn o arian S4C ar gyfer y flwyddyn ariannol yma, ac nad oedd S4C wedi gwirfoddoli i hyn”.
Wrth ymateb i AS Plaid Cymru, Jonathan Edwards, ym mis Mehefin, dywedodd Jeremy Hunt ei fod o “wedi trafod lleihau nawdd gyda S4C yn ddiweddar”.
“Canlyniad hynny oedd ein bod ni wedi cytuno ar y cyd y bydd yna ostyngiad o £2 miliwn yng nghyllideb S4C gan fy adran o fewn y flwyddyn yma”.