Addawodd Y Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones, y byddai’n ymateb i’r alwad am ddatganiad cliriach ynghylch statws swyddogol y Gymraeg wrth drafod y Mesur Iaith yn y Senedd heddiw.

Roedd yn ymateb i argymhellion a wnaethpwyd gan bwyllgorau’r Cynulliad cyn gwyliau’r haf, ar ddiwrnod cyntaf tymor newydd y Cynulliad.

Dywedodd wrth Aelodau Cynulliad ei fod wedi gwrando yn ofalus ynglŷn a sut y gallai wella’r Mesur Iaith Cymraeg arfaethedig ac fe fydd yn cyhoeddi gwelliannau iddo yn fuan.

“Gyda’r gwelliannau arfaethedig, ‘dwi’n dal i gredu’n gryf, os nad yn gryfach nag erioed, fod y Mesur a gyflwynais yn y Gwanwyn yn cynrychioli deddfwriaeth synhwyrol, ddefnyddiol a phwrpasol,” meddai

“Dwi wedi gwrando yn ofalus ar y dadleuon ac yn bwriadu ymateb yn bositif i’r alwad am ddatganiad cliriach ynghylch statws swyddogol y Gymraeg.”

Cymdeithas yr Iaith

Roedd aelodau o Gymdeithas yr Iaith wedi cysgu y tu allan i’r Senedd neithiwr er mwyn galw am newid y mesur.

“Bydd rhaid disgwyl i weld manylion unrhyw welliannau y mae’r Llywodraeth yn ei gynnig fis nesaf,” meddai llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith ar ôl gwrando ar y drafodaeth heddiw.

“Rydan ni’n pwysleisio ei bod hi’n dda clywed rhai ACau yn cytuno bod angen datganiad clir a diamwys fod yr iaith Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru,” meddai’r llefarydd.

Ond, dywedodd hefyd bod “angen datganiad fod gan bobl Cymru’r hawl i ddefnyddio’r iaith o ddydd i ddydd”.