- Roedd y sesiwn dan sylw yma i fod i’w chynnal ar Chwefror 23, ond cafodd ei gohirio. Bydd hi’n cael ei chynnal heno (nos Fercher, Mawrth 15)
Flynyddoedd maith yn ôl, pan oeddwn fachgen ffôl a di-glem ac yn fyfyriwr prifysgol, mi dreuliais dipyn o amser yn protestio. Yr oedd y 70au yn gyfnod o weiddi’n groch am bethau, yn enwedig am bethau oedd yn ymwneud â’r iaith.
Un o’r pynciau llosg oedd cael Coleg Cymraeg. Roedd angen i’w sefydlu ac ar frys. “Coleg Cymraeg yn awr” oedd ein slogan gyson. Felly, peth rhyfedd – a hyfryd – yw cael bod yn rhan fechan o’r Coleg Cymraeg hwnnw ddegawdau’n ddiweddarach! Daeth yr alwad i fod yn rhan o’r gyfres “Newyddiaduraiaeth o Bedwar Ban Byd”. Yn ôl y broliant, mae’r gyfres o gyflwyniadau yn “sesiynau ar-lein sy’n trafod gwaith a phrofiadau newyddiadurwyr sydd yn, neu wedi gweithio dramor, a phwysigrwydd a rôl y Gymraeg yn ei gyrfa.”
Fe fyddaf yn dweud fy nweud ar Chwefror 23, gan godi yn gynnar iawn yn Canberra ar y 24ain. Fe fyddaf yn ymuno â chwmni dethol a difyr. Cychwynnodd y gyfres y llynedd gyda Maxine Hughes o’r BBC ac eleni mae Illtud Dafydd a Megan Davies eisoes wedi trafod hel straeon tramor. Am gwmni! Max yn enwog ar Netflix, Illtud a’i swydd arbennig gydag Agence France-Presse, a Megan wedi gweithio ym myd rhyfeddol y cylchgrawn byd eang Vogue.
Dyna i chi bobol ddiddorol, ond pam fi i’w dilyn nhw? Ac yna, yn sydyn, fe wnes i sylweddoli fod gennyf ran arbennig yn y gyfres: fi yw’r hen stejar! Mae cael y cyfle i drafod crefft sy’ wedi bod yn rhan o’m bywyd am hanner canrif yn rhodd arbennig. Ac mae’n brafiach byth i gael gwneud yng nghwmi’r sawl sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd ym maes hel straeon.
Mae pethau wedi newid yn chwyldroadol o sylweddol ers i mi gychwyn fel “newyddiadurwr darlledu” yn 1980 gyda Darlledu Caerdydd/CBC. Mae’r dechnoleg angenrheidiol bellach yn nwylo’r gohebydd ei hun, yn hytrach na llu o beirianwyr a phobol stiwdio. Ac mae yna sawl platfform i’w gwasanaethu. Yn yr hen ddyddiau, roedd pobol yn meddwl yr oeddwn yn hynod gweithgar i wneud adroddiadau radio Cymraeg a Saesneg ar achos llys yn Abertawe, gydag ambell i ddarn ar ben hynny i Newyddion Saith. Am hyblygrwydd!
Bellach, mae yna restr hir o ddyletswyddau gohebu i’w cyrraedd. Mae gwenud adroddiad – pecyn – i radio a theledu yma o hyd. Ond nid mater o sgwennu geiriau ac adrodd stori yw hi bellach. Ym myd y radio, mae yna recordio adroddiad ar ffôn a’i ddanfon fel atodiad i e-bost i’r stafell newyddion. Yn yr hen ddyddiau, roedd rhaid torri’r tâp chwarter modfedd gyda math o rasal cyn hala’r eitem “lawr y lein”, boed o flwch ffôn neu o stiwdio Abertawe i lines room Llandaf neu Lundain. Ac ar ben gwneud adroddiad mae’r angen i fod yn barod am “sgwrs” neu two-way gyda pha orsaf bynnag sydd â thair munud yn wag! Newid sylfaenol ond pitw wrth gymharu â theledu.
Y dyddiau yma, mae llawer o ohebyddion yn ffilmio ar ben casglu gwybodaeth ac ysgrifennu sgript. Ac mae yna sawl un sy’n golygu eu deunydd hefyd. Pwy bynnag sy’n “torri” y stori, mae yna ragor eto o waith i’w gyflawni. Gydag archifau go iawn yn brin, mae’n rhaid i’r riportar gasglu a chofnodi lluniau a allai fod o bwys yn y dyfodol, a’u danfon i database. A’u cyfrifoldeb nhw yw gwneud yn siŵr bod y supers wedi’u hamseru a’u sillafu’n gywir erbyn cyrraedd y sgrin.
Ac mae’n drindod o blatfformau y dyddiau hyn, gyda chyfryngau cymdeithasol bellach yn cyrraedd cynulleidfaoedd ifancach yn lle’r weiarles a’r teli. Trydar fan hyn, gosod lluniau neu fideo ar Facebook neu Instagram fan draw, hyn oll tra’n ceisio cyflawni cyfrifoldeb pennaf unrhyw ohebydd go iawn – dweud stori’n ffeithiol ac yn effeithiol.
Meddwl am y presennol yn lle’r gorffennol
Felly, wrth baratoi at fy sesiwn gyda’r Coleg Cymraeg, roeddwn i wedi bod yn meddwl am y presennol yn fwy na’r gorffennol – a finnau’n hen stejar, cofiwch! Y peth olaf mae cynulleidfa o gyw-newyddiadurwyr eisiau ei glywed gan rywun fel fi yw hen “straeon rhyfel” (mae gennyf ddigon os oes cwestiwn amdanynt!).
Felly rwyf wedi bod yn pendroni am fy mhrofiad, fy nghrefft ac fy nghariad tuag at ddarlledu a dweud stori. Mae’r pethau sylfaenol yn aros fel maen nhw wedi bod erioed. Ac fe fydd gan y gynulleidfa rhithiol eithaf syniad o’r pethau hynny o’u gwylio’n ddiweddar ar fwletinau a chynnyrch ar-lein Newyddion S4C. Mae gwaith Iwan Griffiths a Rhodri Llewllyn yn Nhwrci wedi bod o’r safon uchaf un. Arbennig, a mwy.
Ill dau wedi cadw eu dyngarwch wrth drafod trasiedi trwy barchu pobol a thrwy ddweud stori heb gymorth ansoddeiriau diangen ac ystrydebau blinderus. Mae’r ddau wedi codi fy nghalon am safon newyddiaddura, mewn cyfnod pan mae “creu cynnyrch” a chyrraedd KPIs yn bwysicach na dweud stori. Ac maen nhw wedi gwneud hyn yn y Gymraeg.
Cyfrifoldeb hen stejar fel fi yw eu gosod nhw mewn cyd-destun hanesyddol. A chyfrifoldeb arall fydd datgan pwysigrwydd y Gymraeg yn eu gwaith nhw, ac yn fy ngwaith innau. Er fy mod i wedi ymgartrefu ym mhellafoedd Awstralia ers degawdau, mae bod yn “llais Awstralia” ar frig y rhestr o bethau rwy’n ymfalchïo ynddynt fel rhan o yrfa amrywiol.
Heb y Gymraeg, ni fyddwn yn cael y cyfle i gael sgwrs gyda’r genedlaeth nesaf o storïwyr Cymru.
A’r neges fawr? Mae teithio’r byd yn cynnig cyfleon, siŵr iawn, ond peidiwch byth ag anghofio am yr iaith sy’n gwneud i chi weld y byd hwnnw mewn ffordd arbennig ac unigryw.