Mae dynes o Gaernarfon yn dweud ei bod wedi gorfod blaenoriaethu dannedd ei phlant cyn ei dannedd ei hun oherwydd cost mynd yn breifat, gan fod rhestrau aros deintyddion y Gwasanaeth Iechyd Gwladol mor hir.
Mae Emma Healy yn dweud ei bod yn adnabod llawer o bobol sydd ar restr aros y Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy’n methu fforddio deintydd preifat, ac o ganlyniad mae hi wedi gorfod tynnu ei dannedd ei hun allan wrth gael problemau deintyddol.
Clywodd hi’n ddiweddar ei bod wedi dod i frig rhestr o 10,000 o bobol i gael triniaeth a llwyddodd hi a’i phlant – Josh, 14, ac Ela, sy’n naw oed – i weld deintydd dydd Sadwrn (Chwefror 18).
Ar hyd a lled Cymru, mae yna nifer fawr o bobol eraill sydd yn methu cael mynediad at ddeintydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Yn ôl adroddiad gan un o bwyllgorau’r Senedd, dydy hi ddim yn bosib mesur graddfa’r broblem yng Nghymru.
‘Dydy pobol ddim yn mynd i allu fforddio talu’
Mae Emma Healy yn gweld y sefyllfa yn anghyfiawn, gan ei bod yn ymwybodol nad yw pawb mewn sefyllfa i dalu.
Mae hi’n teimlo bod y wlad ar ei gliniau o ran y sefyllfa economaidd ac, yn ei barn hi, mae’r sefyllfa ddeintyddol yn haeddu’r un sylw ag ysbytai.
“Dydy pobol ddim yn mynd i allu fforddio talu trwy eu trwynau i gael deintydd,” meddai wrth golwg360.
“Mae o’n jôc.
“Roeddwn yn cael y sgwrs yma efo rhywun yn y gwaith y diwrnod o’r blaen, efo’r nyrsys yma ar streic a ballu.
“Digon teg, maen nhw’n gwneud gwaith anhygoel.
“Dylai eu bod nhw’n rhoi mwy o arian i gael practices y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar gael.
“Dyna wnes i ddweud, maen nhw angen cael arian mewn i bobol gael deintydd ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
“Ond rydym yn fwy lwcus na rhai gwledydd eraill.
“Mae llawer iawn o dlodi, llawer o bobol yn ddi-waith.
“Dydy pobol ddim yn mynd i allu fforddio talu.
“Rwy’n adnabod llawer iawn o bobol sydd wedi tynnu eu dannedd eu hunain.
“Dyna pa mor nyts ydy o.
“Dydy pobol methu fforddio fo.
“Os wyt ti mewn poen ddifrifol, dannoedd difrifol ac maen nhw’n dweud bo ti’n gallu fforddio deintydd allan o oriau ar y penwythnos neu gyda’r nos, gwnân nhw apwyntiad i chdi ond fel rwy’n dweud, ti’n mynd yna, dydyn nhw ddim yn rhoi filling, maen nhw’n mynd i dynnu dy ddant.
“Dyna sy’n ych-a-fi am y peth.”
Anodd fforddio mynd yn breifat
Pan sylweddolodd Emma Healy fod yn rhaid iddi weld deintydd yn breifat, a hithau’n fam sengl, roedd y gost yn enfawr iddi a bu raid iddi beidio â chael triniaeth er mwyn talu am driniaeth i’w mab.
Oherwydd rhesymau tu hwnt i’w rheolaeth, methodd hi nifer o apwyntiadau deintyddol pan oedd ganddi ddeintydd ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol flynyddoedd yn ôl.
Achosodd hyn iddi gael ei gwahardd o’r deintydd, ac aeth i chwilio am ddeintydd arall ond doedd hi’n methu dod o hyd i un.
Flynyddoedd yn ddiweddarach ac Ela, ei merch, mewn poen efo’i dannedd, roedd yn gorfod aros i weld deintydd ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Ond mae hi wedi gorfod talu’n ddrud am ddeintydd yn y gorffennol.
“Pan oeddwn yn disgwyl fy mhlant, Josh a Ela, roeddwn yn cael deintydd am ddim oherwydd rwyt ti’n eu cael nhw efo’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol,” meddai.
“Collais y privilege o gael deintydd ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, er fy mod yn gweithio llai o oriau ac yn cael credydau treth oherwydd collais i ddau neu dri apwyntiad oherwydd bod y car wedi torri lawr ac ati.
“Doeddwn i’n methu cyrraedd yno.
“Ffonion nhw a dweud, “This is the third one you’ve cancelled”.
“Dywedais, “My car’s broken down, I can’t help it.”
“Aethon nhw yn funny efo fi a blacklist-io fi.
“Doeddwn i ddim yn cael mynd yno am chwe mis, felly gwrthodais i fynd yno wedyn.
“Roeddwn yn meddwl y byddwn yn ffeindio un arall, ond wnes i ddim.
“Roedd hynny wedi digwydd ac yna daeth Covid.
“Pan wnaeth y deintydd wrthod fy nghymryd, ceisiais i gael deintydd ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
“Roedd hyn tua phum mlynedd yn ôl.
“Gwrthodais fynd at y deintydd oherwydd bo nhw wedi gwrthod fy nghymryd.
“Beth ddigwyddodd yn ystod cyfnod Covid oedd y dywedon nhw y bysen nhw’n cymryd fy enw i ac enw’r plant i lawr mewn deintydd gwahanol yng Nghricieth.
“Aeth Covid, ac wedyn gwrthodon nhw gymryd pobol.
“Roedd ganddyn nhw backlog o bobol oedd eisiau lle deintydd ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
“Rwy’n cofio mynd yna efo fy merch Ela, oedd mewn poen efo’i dannedd.
“Gwnaethon ni ffonio deintydd tu allan i oriau ar y penwythnos a chawson ni fynd yno.
“Dywedon nhw bo ni’n gorfod disgwyl am y driniaeth.
“Roedd 10,000 o bobol ar eu rhestr nhw.
“Roedd yn absoloutely ridiculous.
“Roeddwn i hefyd wedi cael problemau efo fy nannedd.
“Roedd rhaid i fi fynd yn breifat a thalu er fy mod yn rhiant sengl.
“Roedd rhaid i mi gael DenPlan, oedd ddim yn cyfro’r driniaeth roeddwn i eisiau.
“Mae gennyf i ddant sydd angen dod o ’na ers blwyddyn.
“Doeddwn i ddim yn cael poen efo fo, ac roeddwn yn gwrthod talu £180.
“Wna’i wneud beth rwy’ angen gwneud, sy’n achosi problemau ac rwy’ wedi talu am rheina.”
Cael gweld deintydd o’r diwedd
“Wythnos diwethaf, cefais alwad o ddeintydd yng Nghricieth yn dweud fy mod wedi cyrraedd pen y rhestr o’r diwedd,” meddai.
“Rwy’n gobeithio ac yn croesi bob dim it will be plain sailing after that.”
Mae hi’n cofio’r dyddiau da pan oedd ganddi ddeintydd ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol roedd hi ar delerau da efo fo.
Ond yn anffodus, roedd mwy o arian i’w gael i’r deintydd o fynd yn breifat, a’r un oedd yr hanes yng nghanghennau eraill PlainSailing.
“Cyn i fi fynd atyn nhw, roeddwn efo PlainSailing ym Mangor,” meddai.
“Roeddwn wedi cael perthynas reit dda efo’r deintydd roeddwn efo fo.
“Roeddwn reit bryderus am fynd i weld deintydd; does neb yn hoffi gweld deintydd, nag oes?
“Gwnaethon nhw gau.
“Roedden nhw’n dweud nad oedd bod yn ddeintydd Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn dod â digon o arian i mewn a bod nhw’n mynd yn breifat.
“Roedd ganddyn nhw rai ym Mhont Menai ac yn Llandudno.
“Roedd ganddyn nhw rai mewn gwahanol lefydd.
“Dywedon nhw, “If you’re with MyDentist you can go to other branches”.
“Roeddwn yn fodlon teithio oherwydd bod deintydd yn costio ffortiwn.
“Gwnaethon nhw eu cau nhw i gyd i lawr oherwydd nad oedd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn rhoi digon o arian i mewn i’r system, ac roedden nhw’n gwneud mwy o bres efo pobol yn talu’n breifat.
“Mae fy enw wedi bod lawr yng Nghibyn yng Nghaernarfon ers pymtheg mlynedd yn ceisio cael lle deintydd ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
“Maen nhw wedi newid o Bupa i Oasis, i rywbeth arall, i rywbeth arall, i rywbeth arall…
“Roedd yn anodd fforddio mynd yn breifat.
“Ti’n gorfod rhoi rhai biliau eraill chdi ar y backburner.
“Roeddwn yn sengl, roeddwn yn cael rhywbeth fel £900 y mis, wedyn roedd fy rhent yn £400-£500, heb sôn am dreth y cyngor.
“Wedyn biliau trydan, gas, dŵr.
“Pan oeddwn i angen triniaeth i fy nannedd, doedd dim byd i fyw arno oherwydd roeddwn yn gorfod talu am y deintydd.
“Oherwydd roedd gennyf gymaint i’w wneud ar fy nannedd i, roedden nhw’n dweud, “Ti angen y Den Plan platinwm”.
“Roeddwn yn talu £25.75 y mis.
“Doedd hynny ddim yn cyfro dim byd ond check-up a hygienist neu beth bynnag.
“Os wyt ti’n gweithio, ti’n cael checks am £14 yn lle £17, ti’n cael tynnu dy ddant am £20 yn lle £180.
“Mae o’n manageable ond roeddwn wedi gorfod talu.
“Roeddwn yn blaenoriaethu dannedd fy mhlant cyn fy nannedd i.
“Os oedd Josh angen triniaeth, roeddwn yn meddwl, “Dw i angen achub ei ddannedd o yn lle sortio fy nannedd i”.
“Dwi heb weld deintydd ers dwy, dair blynedd.
“Rwy’ wedi gorfod talu i Josh yn lle talu i fi fy hun.
“Roedd angen cwpwl o fillings, rwy’ wedi gorfod mynd â fo yn breifat a thalu dros £200.
“Mae o’n 14 oed ond maen nhw fod i gael deintydd NHS o dan 16 oed.”
Y Gwasanaeth Iechyd yn cynnig llai o opsiynau na deintyddion preifat
Nid yn unig mae gwasanaethau deintyddol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn anodd eu cael, ond maen nhw hefyd yn cynnig llai o opsiynau na deintydd preifat ac yn tynnu dannedd mwy, yn ôl Emma Healy.
“Ti’n cael triniaeth well yn breifat oherwydd bod mwy o opsiynau,” meddai.
“Oherwydd dy fod yn talu, gwnân nhw gynnig hyn, llall ac arall i chdi.
“Mae gennyf ddant sydd wedi cracio, a dwi ddim eisiau iddyn nhw dynnu fo, rwy’ eisiau iddyn nhw roi rhywbeth yn ei le.
“Mae’n un o’r dannedd rwyt ti’n ei weld os wyt ti’n gwenu, ti’n mynd i weld bwlch.
“Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn bendant yn tynnu dannedd mwy nag yn breifat yn lle eu trin nhw.
“Mae’r driniaeth yn bendant yn wahanol.”
Cyflwr yn y teulu
I ychwanegu at ofid Emma Healy, mae cyflwr deintyddol yn ei theulu all fod yn etifeddol, ac oherwydd hyn mae hi’n teimlo ei bod angen gofal deintyddol o safon dda.
“Roedd gan fy nhad i gyflwr,” meddai.
“Roedd ei ddannedd yn dod yn rhydd.
“Gwnaeth dannedd Dad i gyd farw a throi’n ddu.
“Mae fy modryb yr un fath, mae hi dal yn fyw, chwaer fy nhad, mae ganddi’r un cyflwr.
“Mae layer top gums hi’n rhydd, mae’r plât yn rhydd.
“Dyna rydw i’n poeni amdano.
“Beth os mae’n hereditary?
“Beth os ydy o am ddisgyn arna’ i nesaf?
“Pwy sy’n mynd i’w drin?”