Mae Cysylltydd Fedra’i yn Gisda yng Nghaernarfon, sydd wedi trefnu grŵp iechyd meddwl a llesiant, yn dweud bod stigma ymhlith dynion am drafod iechyd meddwl, sy’n ei gwneud hi’n anoddach iddyn nhw siarad am eu teimladau.

Bydd y grŵp newydd yn cyfarfod yn swyddfa Gisda bob dydd Mercher o 4.30yh i 5.30yh dan arweiniad cwnselydd, i ddynion sy’n dioddef oherwydd iechyd meddwl drafod eu lles a’u teimladau.

Dydy Gisda ddim yn gwybod am ba hyd fydd pob sesiwn yn para eto, gan fod y grŵp yn newydd ac maen nhw am weld sut mae’n datblygu.

Mae prosiect Fedra’i yn cael ei ariannu gan Betsi Cadwaladr, efo tri hwb o fewn Gisda yng Nghaernarfon, Bangor a Pwllheli, ac mae’n cynnig cefnogaeth iechyd meddwl a lles i bobol sy’n dioddef efo problemau iechyd lefel isel.

Mae Gisda yn elusen sy’n darparu cefnogaeth cyfleodd, lles, llesiant, llety a llais i bobol ifanc sy’n byw yn y gogledd.

Gwreiddiau’r syniad

Cwnselydd ar leoliad yn Gisda gafodd y syniad o sefydlu’r grŵp i helpu dynion efo’u hiechyd meddwl.

Penderfynwyd y byddai’r cwnselydd yma’n cynnig rhywbeth penodol ar gyfer dynion.

“Gwnaeth y syniad ddod ar ôl i fi gwrdd â chwnselydd,” meddai Mirain Brady, Cysylltydd Fedra’i Gisda Caernarfon wrth golwg360.

“Rydym efo cwnslelwyr sydd ar leoliad efo ni ac maen nhw ym Mhrifysgol Bangor.

“Pan oeddwn yn siarad efo cwnselydd, roedd yn dweud byddai’n hoffi helpu dynion efo problemau iechyd meddwl ar ôl iddo orffen y cwrs.

“Wrth siarad efo fo, roeddwn yn meddwl efallai bod gap gennym ni ar hyn o bryd o rywbeth i’w gynnig i les dynion yn arbennig.”

Opsiynau i ddynion

Yn ôl Mirain Brady, mae’n bwysig bod opsiynau i ddynion gael cymorth oherwydd dydy’r dynion mae hi’n gweithio efo nhw ddim wedi cysylltu cymaint â merched.

“Rwy’n meddwl ei fod yn bwysig ffeindio ffyrdd o gael nhw i ymuno efo gweithgareddau ac agor fyny,” meddai.

“Rwy’n meddwl efallai bod cynnal rhywbeth i ddynion yn specific am agor hyn fyny a chael mwy i siarad.”

Mae croeso i unrhyw un sy’n ddyn o ran hunaniaeth ymuno â’r grŵp.

“Roeddem yn meddwl y byddai’n bwysig sicrhau bod y grŵp yn inclusive,” meddai.

“Mae’r grŵp i ddynion, dynion traws a phobol sy’n hunanadnabod fel dyn.

“Does dim rhaid cael cyfeiriad.

“Mae croeso i unrhyw un droi fyny ar y diwrnod.”

Stigma am ddynion yn trafod iechyd meddwl

Yn ôl Mirain Brady, er bod pethau’n gwella, yn draddodiadol – am sawl rheswm – mae hi wedi bod yn anoddach i ddynion drafod eu hemosiynau a’u teimladau.

Mae hi’n teimlo y bydd y grŵp yn ofod i ddynion gael mynegi eu hunain mewn lle saff, a’i gobaith yw y bydd y grŵp yma’n ran o ddatblygiad dynion wrth iddyn nhw geisio bod yn fwy agored.

“Rwy’n meddwl bod stigma wedi bod am drafod iechyd meddwl ymysg dynion, felly mae’n bwysig dangos ei bod hi’n iawn trafod teimladau,” meddai.

“Trwy ddechrau grŵp fel yma, mae’n rhoi’r cyfle i ddynion fynegi eu teimladau mewn rhywle saff sydd ddim yn eu barnu.

“Y gobaith yw y bydd mwy yn gyfforddus i ymuno â grwpiau fel hyn, a sylweddoli bod siarad yn bwysig ac i beidio cadw bob dim i mewn.

“Mae llawer o beth rydym yn ei wneud i helpu llesiant.

“Rwyf wedi gweld efo grwpiau eraill rydym yn eu cynnal bod rhannu profiadau wir yn helpu iechyd meddwl a lles.

“Rwy’n meddwl yn ein cymdeithas fod dynion yn ei ffeindio fo’n anoddach siarad am eu teimladau.

“Mae hynny i wneud efo sut maen nhw wedi cael eu magu, a’r cyfryngau.

“Rwy’n meddwl bod pobol yn gweld pethau’n anodd weithiau.

“Rwy’n meddwl bod pethau llawer gwell nac oedden nhw o blaen.

“Yn y blynyddoedd diwethaf, mae pobol yn siarad mwy.

“Gobeithio trwy ddechrau pethau fel yma y bydd mwy o ddiddordeb, bod o’n creu lle i bobol agor fyny a siarad am sut maen nhw’n teimlo a normaleiddio’r peth mwy.”