Mae oddeutu 1,500 o weithwyr ambiwlans sy’n aelodau o undeb GMB yn streicio heddiw (dydd Llun, Chwefror 20), ar ôl gwrthod y cynnig cyflog diweddaraf.

Roedd y cynnig yn golygu codiad cyflog o 5.5% a bonws untro o 1.5%.

Ond bydd y gweithwyr yn ymuno ag oddeutu 10,000 o weithwyr ambiwlans sy’n streicio ar ôl i ryw ddau draean o weithwyr wrthod y cynnig fyddai’n gweld aelodau’n colli 1.5% o’u cyflog mewn termau real ar gyfer y flwyddyn nesaf.

“Mae hwn yn ganlyniad clir, ac mae aelodau wedi cael dweud eu dweud am y cynnig,” meddai Nathan Holman, arweinydd undeb GMB ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

“Rydym yn diolch i Lywodraeth Cymru am drafod, ond os mai dyma eu cynnig terfynol yna mae’n rhy isel i’n haelodau.

“Nawr, yn fwy nag erioed, mae angen datrysiad ar draws y Deyrnas Unedig i helynt cyflogau isel sydd wedi effeithio ar ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’n gwasanaethau ambiwlans.

“Yr unig berson sy’n gallu cymryd cyfrifoldeb am hynny yw Steve Barclay, ac mae’n bryd iddo gamu i fyny a siarad am gyflogau nawr.

“Mae gweithwyr ambiwlans ledled Cymru a Lloegr yn aros.”