Mae dirprwy lywydd ac 13 aelod o fwrdd y mudiad Assemblea Nacional Catalana wedi ymddiswyddo ar ôl iddyn nhw feirniadu’r llywydd.
Daw ymddiswyddiadau Jordi Pesarrodona a’r unigolion eraill gyda Dolors Feliu dan y lach.
Roedd yr unigolion yn awyddus i’w gweld hi’n wynebu pleidlais hyder ar ôl i’w chefnogwyr gynnig y dylai unigolion o’r mudiad gyflwyno’u henwau ar gyfer etholiadau nesa’r senedd yng Nghatalwnia.
Mae’r rhai sydd wedi camu o’r neilltu wedi wfftio’r awgrym, gan gyhuddo’r arweinydd o fod yn rhy awdurdodaidd.
Tra bod Jordi Pesarrodona wedi camu o’r neilltu, bydd yn parhau i fod yn aelod o’r bwrdd.
Bydd yn rhaid i’r mudiad lenwi’r 13 lle gwag ar ôl iddyn nhw geisio datrys yr anghydfod.
Cafodd cynnig ynghylch ymrwymiad y bwrdd i “werthoedd o ddemocratiaeth a sgwrs fewnol”, i wella perthnasau a’i weithdrefnau mewnol ei dderbyn, o 40 o bleidleisio i wyth, gydag wyth yn atal eu pleidlais.
Mae Dolors Feliu wedi gwrthod ymddiswyddo, ond yn cydnabod fod diffyg cytundeb ynghylch cyflwyno ymgeiswyr seneddol yn un o’r ffactorau sydd wedi hollti’r mudiad.
Mae hefyd wedi amddiffyn rhinweddau democrataidd yr Assemblea a’u rheolaeth o’r sefyllfa bresennol.