Ifan Morgan Jones sy’n dweud y bydd yr adolygiad gwario yn taro gorllewin Cymru yn galed…
Hydref 20, mis i heddiw. Dyna’r dyddiad y bydd Llywodraeth San Steffan yn cyhoeddi ei Hadolygiad Gwario Cynhwysfawr, a dyna’r diwrnod y byddwn ni’n cael gwybod beth fydd hyd a lled y toriadau dros y pedwar mlynedd nesaf.
Hyd yn hyn mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi toriadau o £6.2 biliwn mewn gwariant, gan docio’r gyllideb fan hyn a fan draw fel coeden bonsai. Diwedd mis Hydref bydd y llif gadwyn yn cael ei thanio a’r canghennau mawr yn disgyn wrth i’r rhan fwyaf o adrannau golli rhwng 25-40% o’u cyllidebau.
Er gwaetha’r ffaith bod y rhan fwyaf o bobol yn cytuno bod angen cywiro’r diffyg ariannol, mae yna dystiolaeth bod y cyhoedd yn dechrau teimlo’n anghyffurddus ynglŷn â maint a chyflymder y toriadau. Yn ôl y pôl piniwn diweddaraf mae’r Blaid Lafur, sy’n pregethu mai sgil effaith y toriadau fydd ail ddirwasgiad, eisoes wedi dal i fyny gyda’r Ceidwadwyr – er nad oes ganddyn nhw arweinydd eto hyd yn oed.
Serch hynny mae yna ryw ymdeimlad o hyd mai rywbeth fydd yn digwydd i bobol eraill fydd y toriadau yma – er y bydd hynny’n siwr o newid unwaith maen nhw’n dechrau brathu. Ac yn anffodus, mae’r holl ffigyrau yn awgrymu mai ni, allan o Brydain gyfan, sy’n debygol o gael y brathiad mwyaf hegar.
Mae sawl gwleidydd ac economegydd eisoes wedi rhybuddio y bydd Cymru yn dioddef yn waeth nag unrhyw ran arall o Brydain, ac mae’r ffigyrau yn cefnogi hynny. Mae 26.6% o weithwyr Cymru yn gweithio yn y sector gyhoeddus o’i gymharu â 21.1% ar draws Prydain.
“Cymru yw’r rhanbarth sy’n mynd i gael ei daro waethaf gan hyn,” meddai Cadeirydd y Ganolfan Ymchwil Busnes a’r Economi, Douglas McWilliams diwedd y mis diwethaf, gan rybuddio y byddai diweithdra yn cyrraedd 11% yng Nghymru erbyn 2015.
Ond yn waeth na hynny, i ni sy’n byw yng ngorllewin Cymru – a dw i’n siwr bod nifer mawr o’r rheini sy’n darllen y blog yma yn eu mysg – mae’n amlwg mai ardaloedd gwledig y gorllewin fydd yn ei chael hi’n waeth na neb. Nid y Cymoedd fydd yn dioddef waethaf tro ‘ma – Gwynedd, Ceredigion a Sir Benfro sydd â’r canran uchaf sy’n gweithio yn y sector gyhoeddus yng Nghymru.
Ac mewn araith yr wythnos diwethaf dywedodd y ffefryn ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Lafur, David Miliband, mai “Cymru fydd yn cael ei tharo galetaf,” a’r gorllewin yn benodol:
“Mae’n anghywir mai economïau lleol mewn ardaloedd fel Gorllewin Cymru fydd yn dioddef mwy nag ardaloedd eraill cyfoethocach.”
Mae’r Llywodraeth yn pregethu y bydd rhaid i bawb rannu’r poen, ond mae’n ymddangos yn amlwg y bydd rhai yn rhannu mwy o’r boen nag eraill – cymunedau Cymraeg gwledig gorllewin Cymru yn eu mysg.
Nid pobol sy’n gweithio yn y sector gyhoeddus fydd yn dioddef yn unig, wrth gwrs. Bydd colli swyddi yn golygu bod gan bobol yn yr ardaloedd yma llai fyth o arian i’w wario ac felly bydd busnesau yn cau a swyddi yn y sector breifat yn mynd hefyd.
Mis i fynd felly a mae pethau’n edrych yn ddu i ni. Fe gawn ni weld bryd hynny a fydd clymblaid San Steffan yn penderfynu ceisio arbed rhai o ardaloedd tlotaf Prydain, fel Gogledd Lloegr a Chymru, rhag y gwaethaf o’r boen.
Fel arall efallai mai’r ddadl gryfaf o blaid cadw cyllideb S4C yw y bydd angen rywbeth i ddifyrru’r holl Gymry Cymraeg sydd ar y clwt.