Mae o leia’ 16 o bobol wedi cael eu lladd, a 50 arall wedi eu hanafu, mewn damwain tren yn India.
Roedd tren nwyddau yn teithio ar ochr anghywir y trac pan aeth ben-ben â thren arall a oedd yn cario pobol yng nghanol storm o law yng ngorsaf Bhaderwah, tua 235 milltir o’r brifddinas, Delhi Newydd.
“Y gred yw bod y tren nwyddau yn teithio ar y trac anghywir,” meddai llefarydd.
“Mae o leia’ 50 o deithwyr wedi eu hanafu, deg ohonyn nhw’n ddifrifol, ac roedd y rhain yn teithio yng ngherbydau blaen y tren.”
Mae damweiniau yn reit gyffredin ar reilffyrdd India, lle mae sustemau signalau a chyfathrebu yn wan.
Llun: damwain arall ar reilffordd India