Fydd yr Aelod Cynulliad Annibynnol, Trish Law, ddim yn sefyll yn etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesa’.
Mae AC Blaenau Gwent wedi gwneud y penderfyniad ar ôl treulio’r haf yn ystyried y sefyllfa. Fe ddaeth i’r canlyniad, meddai, mai mam a mam-gu yw hi yn y lle cynta’.
Fe enillodd Mrs Law y sedd yn yr is-etholiad yn dilyn marwolaeth ei gwr, y diweddar AC a AS, Peter Law, yn 2005. Roedd e wedi gadael y Blaid Lafur yn dilyn ffrae tros restrau ymgeiswyr merched-yn-unig.
Roedd mwyafrif Trish Law tros Lafur yn 5,357 yn etholiad 2007. Ond gyda’r cyhoeddiad hwn heddiw, fe fydd Llafur yn llygadu sedd Blaenau Gwent fel un i’w hadennill.
Gormod o ymrwymiad
“Fe fyddai sefyll eto yn 2011 yn golygu ymrwymo i fod yn Aelod Cynulliad am bedair blynedd a hanner arall – tan fis Mai, 2015, ac allwn i ddim gwneud hynny,” meddai Trish Law.
“Does gan y rhan fwya’ o bobol ddim syniad faint o bethau y mae’n rhaid i mi fynd iddyn nhw ym Mae Caerdydd ac yn yr etholaeth, ac mae’n rhaid iddyn nhw gael blaenoriaeth dros ddigwyddiadau teuluol.
“Ond mam a mam-gu ydw i yn y lle cynta’.
“Fe sefais i yn etholiad 2006 oherwydd fy mod i’n credu y byddai Peter eisie i mi gario ymlaen â’r gwaith da yr oedd e wedi ei wneud yn y Cynulliad… wnes i ddim meddwl y bydden i’n ennill.”
Sedd seneddol wedi troi’n ôl
Fe lwyddodd Llafur i adennill sedd seneddol Blaenau Gwent eleni, gan ei chipio oddi ar Dai Davies, cyn-asiant Peter Law.