Mae undeb llafur mwya’ gwledydd Prydain yn mynd â chwmni awyrennau i’r llys, gan honni ei fod wedi torri ei air ynglyn â rhoi codiad cyflog gwerth miliynau o bunnoedd.

Fe fydd Unite yn mynd â’i achos yn erbyn BMI i’r Uchel Lys, a hynny ar ran dros 3,000 o weithwyr, gan honni fod cytundeb wedi ei dorri.

Mae’r undeb yn dweud fod cytundeb cyflog a ddaeth i rym yn 2007 rhwng Unite a BMI, yn sicrhau codiadau cyflog i weithwyr yn 2007, 2008 a 2009.

Fe gafodd y ddau godiad cynta’ eu talu, ond oherwydd amgylchiadau economaidd, mae’r undeb yn dweud na ddigwyddodd y trydydd codiad o 4.75% ar gyfer y flwyddyn Ebrill 2009 hyd ddiwedd Mawrth 2010.


Dyled i weithwyr

“Mae Unite yn mynd â’i honiad i’r Uchel Lys, oherwydd mae yna arian yn ddyledus i weithwyr BMI,” meddai’r swyddog, Brian Boyd.

“Fe gytunodd y staff i aros am y trydydd codiad, oherwydd ei bod hi’n adeg anodd yn economaidd, ond maen nhw’n dal i aros i’r cwmni anrhydeddu ei addewid.

“Mae Lufthansa, perchnogion BMI, yn gwmni awyrennau anferth, ac mae gweithwyr yn haeddu cael eu gwobrwyo am eu ffyddlondeb a’u gwaith caled.”