Mae’r Pab wedi awgrymu y gallai’r Eglwys Babyddol ym Mhrydain rannu’r gwersi y mae hi wedi gorfod eu dysgu ynglyn â cham-drin plant, gyda’r gymdeithas ehangach. Dyna fyddai’n gwneud yn siwr na fydd plant yn diodde’ yn unlle arall, meddai.
“Mae eich ymwybyddiaeth yn tyfu ynglyn â pha mor eang ydi cam-drin yn y gymdeithas, a’i effeithiau trychinebus, a’r angen i wneud yn siwr fod yna drefn yn ei lle sy’n gwarchod a chefnogi dioddefwyr,” meddai’r Pab Bened XVI.
“Fe ddylai hynny eich sbarduno chi i rannu’r gwersi yr ydych chi wedi eu dysgu, gyda’r gymdeithas ehangach.
“Yn wir, pa ffordd well sydd yna o wneud yn iawn am y pechodau yma, nac wrth estyn allan, mewn ysbryd gwylaidd o gariad at gyd-ddyn, a helpu plant sy’n dal i ddiodde’ camdriniaeth yn rhywle arall?”
Roedd sylwadau’r Pab y prynhawn yma, yn ystod oriau ola’ ei ymweliad pedwar diwrnod â Phrydain, yn rhan o gyfres o ddatganiadau cryf iawn ganddo yn erbyn sgandal cam-drin plant gan glerigwyr yr Eglwys Babyddol.