Mae Prydeiniwr o dras Somali wedi cael ei arestio yn Amsterdam, dan amheuaeth o fod yn gysylltiedig â grwp terfysgol.
Fe gafodd y gwr ei ddal ym maes awyr rhyngwladol Schiphol, ar ôl hedfan yno o Lerpwl. Roedd yn bwriadu mynd yn ei flaen i Uganda.
“Mae wedi ei arestio ar ôl i ni dderbyn gwybodaeth gan awdurdodau Prydain,” meddai llefarydd.
Mae maes awyr Amsterdam wedi cynyddu eu mesurau diogelwch ers dydd Nadolig y llynedd, wedi i’r myfyriwr o Nigeria, Umar Farouk Abdulmutallab, geisio ffrwydro awyren a gododd oddi yno ar ei ffordd i’r Unol Daleithiau.
Achos arall
Y mis diwetha’, fe gafodd dau wr o Yemen eu harestio yn Amsterdam ar ôl hedfan yno o Chicago, ar amheuaeth o baratoi ar gyfer ymosodiad terfysgol. Ar ôl cael eu dal am rai dyddiau, fe gawson nhw eu rhyddhau yn ddi-gyhuddiad.