Mae llif olew yng Ngwlff Mecsico wedi ei rwystro o’r diwedd, yn ôl llefarydd ar ran llywodraeth America.
Mae’r cwmni olew BP bellach wedi llwyddo i selio ffynnon dan y môr, gan ddod â brwydr bum mis i ben.
Fe ffrwydrodd y rig olew, Deepwater Horizon, ar Ebrill 20, gan ladd 11 o weithwyr.
Misoedd o waith
Fe lwyddodd BP i roi cap ar y ffynnon dri mis wedi’r trychineb, ond doedd dim modd galw’r ffynnon yn un ‘farw’ nes y gellid cadarnhau unwaith ac am byth fod y plwg yn dal ei dir yn erbyn holl bwysau’r llif olew.
Heddiw y digwyddodd hynny.
“O’r diwedd, fe allwn ni nodi, nad oes bygythiad pellach i Gwlff Mecsico gan yr olew o’r ffynnon hon,” meddai swyddog.
Yn ôl amcangyfrif, mae 206 miliwn o alwyni o olew wedi llifo i fôr y Gwlff ers y trychineb.