Mae 21 o bobol yn diodde’ o glefyd y llengfilwyr, yn ôl yr asiantaethau sy’n ymchwilio i’r clwstwr o achosion yn ne ddwyrain Cymru.
Mae wyth awdurdod lleol bellach yn cydweithio gyda’r asiantaethau iechyd i geisio penderfynu lle’n union y tarddodd yr afiechyd, a sut mae gwneud yn siwr na fydd yn lledu ymhellach.
Mae datganiad y pnawn yma yn cadarnhau bod 21 o achosion yn rhan o’r clwstwr diweddara’ hwn a welodd wraig 49 oed yn marw ddydd Sul diwetha’.
Fe allai un achos arall fod yn rhan o’r clwstwr, ond mae’r ymchwiliad i hwnnw yn parhau.
Manylion
• Mae’r clwstwr o achosion wedi’i gyfyngu i ardal 12km bob ochr i ffordd yr A465 rhwng Y Fenni a Llandarsi.
• Fe gafodd saith o bobol, sy’n diodde’ o glefyd y llengfilwyr, eu hymchwilio i weld p’un ai ydyn nhw’n gysylltiedig â’r clwstwr, ond does dim cysylltiad.
• Mae dau o’r saith person yma bellach wedi marw – un gwr 70 oed, a gwraig 64 oed.
• Mae ymchwiliadau eraill yn rhoi chwydd wydr ar glwstwr arall o saith o bobol yn ardal Rhymni; ac mae clwstwr arall o bobol yng Nghwm Cynon dan sylw hefyd.
•