Mae tonnau enfawr wedi torri ar draethau Bermwda heddiw, wrth i bobol yr ynys frysio i orchuddio ffenestri a llenwi sachau tywod a gwneud yn siwr fod ganddyn nhw ddigon o fwyd a diod.

Mae disgwyl i Gorwynt Igor gyrraedd yn iawn yn ystod y dyddiau nesa’.

Dan awyr dywyll a chymylog, fe ddaeth pobol i’r traethau i weld tonnau mor uchel â 15 troedfedd yn torri – ond hyn y y gobaith na fyddai Igor yn gwneud gormod o ddifrod i adeiladau’r ynys.

Pasio heibio

Y disgwyl yw y bydd Igor yn pasio heibio’r ynys yn hwyr heno neu’n gynnar iawn fory.

Mae gwyntoedd Igor yn chwythu ar gyflymder o tua 85 milltir yr awr – mae hynny gryn dipyn yn llai grymus na’r disgwyl gwreiddiol, pan oedd wedi ei nodi fel Storm Gategori 4.