Mae modurwyr yn wynebu problemau mawr gyda’u hiechyd yn y dyfodol, yn ôl canlyniadau ymchwil sydd wedi’i ryddhau heddiw.

Mae Dr David Lewis, dyfeisydd y term ‘road rage’ yn y 1990au, yn rhybuddio bellach bod traffig a chiwio yn codi pwysedd gwaed i’r fath raddau nes bod pobol yn diodde’ problemau iechyd yn nes ymlaen yn eu bywydau.

Ar ben hynny, meddai, mae ei ymchwil yn dangos fod teithio ar fws yn lleihau tensiwn hyd at draean.

Yn ystod ei ymchwil, fe astudiodd Dr Lewis 30 o gymudwyr oedd yn gwneud teithiau tebyg i’r gwaith bob dydd, ond yn defnyddio mathau gwahanol o drafnidiaeth.

Trydan

Ym mhob achos, roedd Dr Lewis yn mesur a chofnodi curiad calon, a’r ffordd yr oedd yr ymateb trydanol yn y croen yn newid dan straen.

Mae ei ganlyniadau’n dangos fod lefelau straen yn lleihau deirgwaith ar deithiau bws.

“Fe all y math yma o straen gael effeithiau hir-dymor o ran iechyd corfforol ac emosiynol,” meddai David Lewis. “Mae mynd ar fws yn iachach, yn y pen-draw.”

Straen

Ochr yn ochr â’r canlyniadau gwyddonol, fe ofynnodd Dr Lewis i’r cymudwyr nodi faint o straen oedden nhw’n ei deimlo, ar raddfa o 1 I 10.

Roedd 93% o’r cymudwyr yn dweud eu bod nhw’n teimlo fod taith fws yn llai o straen arnyn nhw.