Mae’r cogydd teledu, Jamie Oliver, wedi dweud y gallai toriadau’r llywodraeth fygwth ei ganolfan sy’n dysgu pobol i goginio bwyd iachus.
Mae Jamie Oliver, a ddaeth i adnabyddiaeth fel y Naked Chef, yn poeni y gallai ei ganolfan, Ministry of Food, fod mewn peryg. Fe sefydlodd y prosiect yn Rotherham, De Swydd Efrog yn 2008.
Mewn erthygl ym mhapur newydd yr Observer, mae’n dadlau bod y gwaith da y mae canolfannau tebyg i Ministry of Food yn ei wneud yn werth miliynau o bunnau, os y medren nhw osgoi pobol rhag diodde’ o afiechydon sy’n gysylltiedig â bod yn rhy dew.
Llwyddo
“Mae’r awdurdod lleol yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gadw’r lle yn agored,” meddai Jamie Oliver yn ei erthygl, “ond dw i ddim yn deall sut y gall canolfan fel hyn fyth fod dan fygythiad.
“Mae’n amlwg bod y Ministry of Food yn un o’r ychydig strategaethau sy’n helpu pobol i oresgyn y problemau sydd ganddyn nhw gyda bwyd.”
Mae dwy ganolfan arall wedi agor ers 2008 – un yn Leeds, a’r llall yn Bradford.