Ro’n i’n flin iawn i glywed yn hwyr neithiwr bod yr Arglwydd Livsey wedi marw’n sydyn. Mae’r teyrngedau iddo wedi llifo mewn a phawb yn ddiffuant yn eu tristwch fel y gwelwch.

Y tro diwethaf i fi ei weld e oedd yn ystod ymgyrch yr etholiad cyffredinol. Fe es i lan i Drefaldwyn i ddilyn Lembit Öpik yn canfasio a’r Arglwydd Livsey oedd yn ein gyrru ni trwy lonydd cul yr etholaeth wrth i fi gyfweld â Lembit ar y daith. Roedd e’n hynod foneddigaidd yn ôl ei arfer y diwrnod hwnnw ac mor frwd ag erioed dros achos ei blaid. Yn ôl Kirsty Williams, un o’i olynwyr fel arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, roedd e’n paratoi at ymgyrch nesaf datganoli, refferendwm mis Mawrth cyn iddo farw. Fe fyddai wedi bod yn gaffaeliad i’r ymgyrch Ie flwyddyn nesaf fel yr oedd yn refferendwm 1997 . Fe fydd colled fawr ar ei ôl.