Mae dyn yn yr Unol Daleithiau wedi saethu doctor ar ôl iddo gael gwybod bod ei fam yn dioddef o gyflwr difrifol.
Llwyddodd y doctor i ddianc ond erbyn i’r heddlu eu cyrraedd nhw yn yr ysbyty yn Baltimore roedd o wedi ei ladd ei hun a’i fam.
Roedd Paul Warren Pardus, 50, wedi bod yn gwrando ar y llawfeddyg yn esbonio’r cyflwr pan gollodd ei bwyll.
Tynnodd ddryll o’i wregys a saethu’r doctor, David Cohen, yn ei fol. Llwyddodd hwnnw i ddianc ac mae disgwyl iddo oroesi.
Cuddiodd yn yr ystafell am ddwy awr yn Ysbyty Johns Hopkins wrth i’r heddlu ymbil arno i ollwng y dryll a dod allan o’r ystafell.
Pan lwyddon nhw i dorri i mewn i’r ystafell daethpwyd o hyd i’r fam 84 oed, Jean Davis, a Paul Warren Pardus, wedi’u saethu yn farw.
“Doedd o ddim yn gallu goddef ei gweld hi fel yr oedd hi,” meddai brawd Paul Warren Pardus, Alvin Gibson, 59, sy’n byw yn nhalaith Virginia.
“Roedd hi’n ddynes annwyl iawn ac mae’n siŵr ei fod o’n meddwl ei bod hi’n dioddef.”
Dywedodd pennaeth diogelwch yr ysbyty bod 80 mynediad i’r adeilad a dros 80,000 o ymwelwyr bob wythnos, felly doedd hi ddim yn bosib gwneud yn siŵr nad oedd neb yn cario dryll.