Mae Charlotte Church wedi siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf ynglŷn â chwalu ei pherthynas gyda’i chyn bartner Gavin Henson.

Dywedodd y gantores 24 oed wrth raglen Daybreak ITV bod sylw’r cyfryngau wedi gwneud sefyllfa “anodd” yn “llawer mwy cymhleth”.

Penderfynodd Charlotte Church a Gavin Henson, 28, wahanu yn gynharach eleni ychydig wythnosau ar ôl cyhoeddi eu bod nhw wedi dyweddïo.

Roedd y ddau wedi bod gyda’i gilydd ers pum mlynedd ac mae ganddyn nhw ddau blentyn, Dexter, un oed, a Ruby, dwy oed.

Perthynas arall

Mae Charlotte Church bellach mewn perthynas gyda’r cerddor Jonathan Powell a dywedodd hi ei bod hi’n mwynhau bywyd.

“Mae’n anodd ar ôl chwalu perthynas yn enwedig pan mae gennych chi blant a hefyd yr holl sylw gan y cyfryngau,” meddai Charlotte Church.

“Mae’n cymhlethu’r holl beth, ac roedden ni’n poeni’n arw ynglŷn â’r plant. Ond rydym ni wedi aros yn ffrindiau da, ac ar hyn o bryd mae popeth yn mynd yn iawn.”

Ychwanegodd ei bod hi’n mynd i wylio Gavin Henson yn cystadlu ar raglen deledu Strictly Come Dancing.

Hunllef, meddai Gavin

Daw ei sylwadau hi ar ôl i Gavin Henson siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf ynglŷn â diwedd ei berthynas gyda Charlotte Church ar raglen Scrum V.

“Roedd yn hunllef,” meddai. “Y peth gwaethaf yn y byd ydi gwylio eich plant yn cael eu magu gan ddyn arall. Dyw hi ddim yn beth braf o gwbl.

“Dydw i ddim eisiau i bobol deimlo tosturi drosta’ i, mae bywyd yn mynd yn ei flaen ac mae’n rhaid i fi ymdopi â’r peth.”