Roedd y gwleidydd Richard Livsey wrthi’n paratoi ar gyfer ymgyrch Ie yn y refferendwm datganoli, meddai arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru.

Fe ddatgelodd Kirsty Williams ei bod wedi gweld y cyn AS ychydig ddyddiau cyn ei farwolaeth sydyn ddoe a’i fod wrthi’n creu rhestrau o’r pethau oedd angen ei gwneud.

Roedd yn edrych ymlaen yn frwdfrydig at yr ymgyrch, meddai Kirsty Williams wrth roi teyrnged iddo ar Radio Wales.

Yr Arglwydd Livsey oedd llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar Gymru yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Ei olynwyr yn rhoi teyrnged

Fe ddywedodd Kirsty Williams hefyd mai iddo ef yr oedd y diolch ei bod hi wedi llwyddo yn ei gyrfa wleidyddol – roedd yn dda iawn am gefnogi ac annog gwleidyddion ifanc, meddai.

Yn ôl olynydd Richard Livsey yn Aelod Seneddol tros Frycheiniog a Maesyfed, ei ran yn yr ymgyrch ddatganoli yn 1997 oedd uchafbwynt ei yrfa wleidyddol. Ond, yn ôl Roger Williams, roedd parch mawr iddo ar lefel bersonol hefyd.

“Fe fydd yn cael ei gofio gyda hoffter mawr am ei rinweddau cryf iawn, iawn,” meddai.

Mae disgwyl y bydd rhagor o deyrngedau i Richard Livsey dros y Sul wrth i’r Democratiaid Rhyddfrydol gasglu yn Lerpwl ar gyfer eu cynhadledd flynyddol.

(Richard Livsey, ar y dde, yn 1997)

Gŵr bonheddig, meddai Kirsty Williams

Roedd yn ŵr bonheddig o’r iawn ryw, meddai Kirsty Williams, sydd hefyd yn cynrychioli Brycheiniog a Maesyfed.

“Roedd yn esiampl wych ar gyfer yr holl wleidyddion a ddaeth ar ei ôl. Fydden i ddim yma heddiw oni bai am yr anogaeth uniongyrchol a roddodd Richard Livsey i fi.

“Fe lwyddodd i gyfuno cariad at waith ei etholaeth gyda chyfraniad arwyddocaol i’r blaid yn gyffredinol.”

Teyrngedau ac amlinell o yrfa Richard Livsey fan hyn.