Fe fydd angladd Owen Edwards yn cael ei chynnal ym Mhenarth yn ddiweddarach heddiw.

Y darlledwr oedd Cyfarwyddwr cynta’ S4C ac roedd wedi bod yn Rheolwr ar y BBC yng Nghymru hefyd.

Ac yntau’n ŵyr i O. M. Edwards ac yn fab i Syr Ifan ab Owen Edwards, sylfaenydd yr Urdd, roedd yn cael ei ystyried yn ddewis perffaith i sefydlu’r sianel Gymraeg a’i harwain yn ei blynyddoedd cynta’.

Ef oedd y llais cynta’ ar y sianel ar 1 Tachwedd 1982 wrth groesawu’r gwylwyr newydd. Roedd wedi dechrau ei yrfa yn gyflwynydd gyda’r BBC yn nyddiau cynnar teledu Cymraeg, yn benna’ ar raglen Heddiw.

Yn ystod ei ddyddiau’n bennaeth y BBC yng Nhymru, roedd wedi sefydlu Radio Cymru a Radio Wales.

Roedd yn 76 oed pan fu farw ddiwedd mis Awst ar ôl brwydr hir gyda chlefyd Parkinson.

Llun: Owen Edwards yn derbyn gwobr Cyfrwng