Mae S4C wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cyd-weithio gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg a’r BBC er mwyn ymchwilio i sut y mae siaradwyr Cymraeg yn defnyddio’r cyfryngau.
Yn ôl y sianel bydd y prosiect yn ymchwilio i’r ffordd y mae’r defnydd o’r Gymraeg wedi newid ymhlith gwahanol garfannau o’r gynulleidfa a sut y bydd yn datblygu dros y blynyddoedd i ddod.
Fe fydd yr ymchwil hefyd yn ystyried cyfleoedd newydd i annog pobol i ddefnyddio mwy o’r cyfryngau Cymraeg.
‘Sialensau mawr’
“Mewn hinsawdd heriol, mae hi’n bwysicach nag erioed fod y BBC ac S4C yn cydweithio er mwyn ein cynulleidfaoedd Cymraeg,” meddai Prif Weithredwr S4C, Arwel Ellis Owen.
“Dw i’n credu bod modd i’r astudiaeth bwysig yma helpu’r ddau ddarlledwr i ddeall yn well beth ydi anghenion a disgwyliadau ein cynulleidfaoedd.”
Dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Menna Richards, bod y cyfryngau Cymraeg yn wynebu “sialensau mawr wrth i dechnoleg a’r defnydd dyddiol o’r iaith esblygu.
“Mi fydd yr ymchwil yma’n ein helpu ni i wneud yn siŵr ein bod ni’n parhau i ddarparu gwasanaethau uchelgeisiol a pherthnasol yn y blynyddoedd i ddod,” meddai.
Sianeli Saesneg
Dywedodd Cadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Meri Huws, fod y Bwrdd yn falch o fod yn gweithio gyda BBC Cymru ac S4C ar yr ymchwil yma.
“Mae teledu, radio a gwefannau Cymraeg yn rhoi cyd-destun bywiog a chyfoes i’r iaith,” meddai, “ond gyda chynifer o sianeli a gwefannau i ddewis ohonynt yn Saesneg, mae hi’n her i ddarlledwyr Cymraeg gadw eu cynulleidfa a denu cynulleidfaoedd newydd.
“Bydd yr ymchwil hwn yn rhoi gwell syniad i ddarlledwyr a chynllunwyr iaith o’r hyn sy’n gweithio i’r gynulleidfa, a bydd hyn, gobeithio, yn arwain at wneud cyfryngau Cymraeg eu hiaith yn fwy apelgar i bobl.”
Mi fydd yr ymchwil yn cael ei gynnal yn ddiweddarach eleni ac yn debyg o gael ei gwblhau yn gynnar yn y flwyddyn newydd.