Mae angen rhoi llawer mwy o help i rieni i gael gafael ar ofal plant, meddai Aelod Seneddol o Gymru.
Yn ôl Hywel Williams, mae yna ddyletswydd ar y Llywodraeth i gynnig rhagor o gymorth wrth iddyn nhw “orfodi” pobol yn ôl i fyd gwaith.
Roedd y corff datblygu cymunedol Sylfaen wedi cynnal ymchwil yn un o wardiau ei etholaeth yng Nghaernarfon gan weithio gyda mamau lleol.
Yn ôl y dystiolaeth, roedd llawer o’r mamau’n awyddus i gael gwaith ond yn ei chael yn anodd cael gafael ar ofal plant.
Mae’r AS yn galw am:
• Fwy o wybodaeth.
• Fwy o ofal ar adegau hyblyg.
• Weithio gyda’r rhieni i gwrdd â’u hanghenion nhw.
• Hawl i ofal plant fel sydd mewn rhai gwledydd eraill.
“Mae yna ddiffyg sylfaenol o ran gwybodaeth a phrinder cefnogaeth i ferched,” meddai Hywel Williams wrth Radio Wales.