Fe fydd pump o aelodau’r Urdd o dde Cymru ymhlith y miloedd a fydd mewn gwasanaeth arbennig gyda’r Pab yn Llundain heddiw.

Fe fydd Archesgob Caergaint, y Cymro Rowan Williams, yn rhannu’r gwasanaeth yn Abaty Westminster gyda Bened XVI.

Yn ôl Deon Westminster, John Hall, fe fydd y gwasanaeth yn “ddiwedd ar hen elyniaethau, sydd wedi bod yn lleihau yn ystod yr 50 mlynedd diwethaf”.

Cyn y gwasanaeth, fe fydd y Pab a Rowan Williams yn cael cyfarfod preifat ym mhencadlys yr Archesgob ym Mhalas Lambeth – dyma fydd y tro cyntaf i unrhyw Bab fod yno, neu yn yr Abaty.

Am y tro cynta’ erioed hefyd, fe fydd y Pab yn ysgwyd llawn gwraig sy’n offeiriad yn yr Eglwys Anglicanaidd – mae Jane Hedges yn un o swyddogion Abaty Westminster ac yn ymgyrchydd tros urddo menywod yn esgobion.

Disgyblion yn y gwasanaeth

Disgyblion o Ysgol Gartholwg – Rhydfelen gynt – yw’r pump fydd yn mynd i’r gwasanaeth ar ran yr Urdd.

Maen nhw i gyd yn y chweched dosbarth yno ac yn astudio addysg grefyddol. Yn ôl swyddog ieuenctid yr Urdd yn yr ysgol, maen nhw’n ei hystyried yn fraint bod yno.

“Dydyn ni ddim yn siŵr beth yn union i’w ddisgwyl yn Abaty Westminster nes y cyrhaeddwn ni, ond mae’r mesurau diogelwch yn hynod o lym,” meddai Eleri Mai. “I’r bobol ifanc, fe fydd y profiad yn un anhygoel ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn i fod yn rhan o’r achlysur hanesyddol.”

“Mae gan y pump ohonom farn wahanol ar grefydd ac er efallai bod barn Y Pab ar rai materion yn amrywio i’n rhai ni, ond bydd cael bod yn rhan o’r achlysur yma yn Abaty Westminster yn wych,” meddai un o’r disgyblion, Tomos Watkins, sy’n 17 oed ac yn dod o Ffynnon Taf.

Y pedwar arall yw: Steve Williams, Elinar Thomas, Danielle Williams a Jarad Sainsbury.

Delw o Aberteifi

Fe fydd mintai arall yn teithio i Lundain o Aberteifi er mwyn i’r Pab fendithio delw sydd yn yr eglwys yno – delw o’r Forwyn Fair gyda channwyll yn ei llaw.

Fe fydd ysgolion Pabyddol yng Nghymru hefyd yn cymryd rhan yn yr ymweliad wrth i wasanaeth mawr yn Llundain gael ei ddarlledu’n fyw tros y We.

Llun: Y Pab yn cyrraedd gwledydd Prydain ddoe (Gwifren PA)