Mae Dirprwy Brif Weinidog Cymru wedi rhoi teyrnged i’r gwleidydd Richard Livsey a fu farw ddoe yn 75 oed.

Ac yntau’n Aelod Seneddol tros Frycheiniog a Maesyfed ar ddau gyfnod gwahanol, fe helpodd sicrhau etifeddiaeth y Rhyddfrydwyr yng nghanolbarth Cymru.

Ef oedd arweinydd y blaid yng Nghymru yn ystod yr ymgyrch ddatganoli ac roedd ganddo ran allweddol yn y fuddugoliaeth yn refferendwm 1997.

“Roedd yn gydweithiwr da iawn ac yn Aelod Seneddol gweithgar tros ei etholaeth,” meddai’r Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones, a oedd yn Nhŷ’r Cyffredin gydag ef. “Roedd ei ddiddordeb a’i gefnogaeth i amaeth a chymunedau gwledig yn sylweddol.”

Roedd yna deyrnged hefyd gan gynghorydd lleol yng Ngheredigion a ddaeth i adnabod Richard Livsey wrth iddo ddechrau dod yn weithgar o fewn y Democratiaid Rhyddfrydol.

“Yr hyn y bydda’ i’n ei gofio yw o ŵr bonheddig hyfryd. Roedd pawb oedd yn cwrdd ag e yn ei hoffi,” meddai Mark Cole. “Roedd ei boblogrwydd yn croesi ffiniau’r pleidiau oherwydd ei fod yn ddynol.”

Ennill isetholiad enwog

Fe ddaeth Richard Livsey i sylw cyhoeddus wrth iddo ennill sedd Brycheiniog a Maesyfed mewn isetholiad ym mis Gorffennaf 1985, y fuddugoliaeth gynta’ i’r Rhyddfrydwyr yn erbyn Llywodraeth Margaret Thatcher yn y senedd honno.

Er iddo golli’r sedd yn 1992 – o ddim ond 130 o bleidleisiau – fe ddaeth yn ôl i’w chipio gyda mwyafrif o 5,000 yn 1997. Mae’r sedd seneddol a’r sedd gynulliad wedi bod yn nwylo’r Democratiaid Rhyddfrydol ers hynny. Fe gafodd Richard Livsey ei wneud yn Arglwydd ar ôl ymddeol o Dŷ’r Cyffredin.

Pan oedd yn arweinydd y blaid yng Nghymru ac wedyn yn llefarydd ar Gymru yn Nhŷ’r Arlgwyddi, roedd yn cael ei weld yn ddylanwad tawel a sicr – fe enillodd ei sedd gynta’ pan oedd y Gynghrair rhwng yr SDP a’r Rhyddfrydwyr yn ei bri ond fe helpodd lywio’r blaid Gymreig trwy chwalfa honno ac i greu’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Cyn mynd yn AS

Cyn ei yrfa wleidyddol, amaethyddiaeth oedd maes Richard Livsey ac fe fu’n gweithio am rai blynyddoedd yn yr Alban, lle safodd gynta’ mewn etholiad ar ran y Rhyddfrydwyr.

Roedd wedi ei eni a’i fagu yn ardal Talgarth yn Sir Frycheiniog ac roedd yn byw yno eto yn ei flynyddoedd ola’, ym mhentre’ Llanfihangel Talyllyn.

Ar ôl dod yn ôl i Gymru yn 1971, roedd ganddo ran yn sefydlu Coleg Amaethyddol Cymru yn Aberystwyth ac roedd yn Uwch Ddarlithydd yno pan enillodd yr isetholiad.

Roedd hefyd yn ffarmio ar dyddyn bychan ac fe fu’n gweithio i ATB-Landbase yn ystod ei gyfnod allan o’r Senedd yn yr 1990au.

Ac yntau’n ddyn gwylaidd a diymhongar, un o’r lluniau enwog ohono fydd ar y llwyfan gydag arweinwyr eraill yr Ymgyrch Ie ar ôl refferendwm datganoli 1997.

Roedd hefyd yn weithiwr dygn yn lleol, yn aelod o sawl cymdeithas ac yn dal swyddi mewn gwahanol fudiadau. Ar un adeg ef oedd Cadeirydd Gŵyl Jazz Aberhonddu.

Dylan Iorwerth yn cofio Richard Livsey

Y sgidiau welais i gynta’ – esgidiau sylweddol, soled; esgidiau cefn gwlad. O’r funud honno, ro’n i’n gwybod bod Richard Livsey am ennill isetholiad Brycheiniog a Maesyfed. Roedd o a’i etholaeth yn ffitio’i gilydd fel … esgid.

Doedd Richard Livsey ddim yn wleidydd fflachiog na swnllyd ond roedd yn tynnu sylw oherwydd ei daldra. Ac, fel ambell i ddyn tal, roedd ei gorff fel petai’n lled-ymddiheuro ar hynny.

Roedd yn ddyn caredig a doeth ac roedd yna barch mawr at ei farn, yn arbennig ym maes amaethyddiaeth. Roedd hefyd yn wleidydd yr oedd pobol yn ymddiried ynddo – pobol gyffredin a hyd yn oed wleidyddion o bleidiau eraill.

Flynyddoedd wedyn, roedd yn ei elfen yng Ngŵyl Jazz Aberhonddu, y wên wylaidd ar ei wyneb a’r dwylo mawr yn symud i ruddm y gerddoriaeth. A phobol yn aml yn brysio ato i siglo llaw a chael sgwrs.