Mae tri o chwaraewr Bangor wedi arwyddo cytundebau newydd gyda’r clwb sydd ar frig tabl Uwch Gynghrair Cymru.

Mae’r ymosodwr Alan Bull ynghyd a’r chwaraewr canol cae Nicky Ward wedi arwyddo cytundebau newydd tan ddiwedd tymor 2012/13.

Mae un o chwaraewr canol cae eraill y clwb, Dave Morley wedi ymrwymo e’r clwb tan ddiwedd tymor 2011/12.

Daw hyn ar ôl i Jamie Reed a Craig Garside arwyddo cytundebau newydd gyda’r clwb yn ddiweddar.

“Mae hyn yn dystiolaeth bellach ein bod ni adeiladu sylfaen cryf tuag at y dyfodol,” meddai cadeirydd Bangor, Dilwyn Jones.

“Mae’r chwaraewyr yma wedi gwneud cyfraniadau mawr at ddechrau ardderchog y tymor hwn ac r’yn ni’n edrych ymlaen at barhau gyda hynny yn erbyn Port Talbot ar y penwythnos.”