Mae artist o Gymru wedi creu’r darlun diweddara’ o nawddsant Cymru a fydd yn cael ei gysegru gan y Pab Bened XVI ar ei ymweliad â Llundain.
Fe gafodd Ifor Davies o Benarth ei gomisiynu i gynllunio mosaig enfawr i Dewi Sant ar gyfer Eglwys Gadeiriol Westminster.
“Wy’n gyfarwydd â gwneud lot o luniau o bobol, ond does neb yn gwybod beth yn union oedd ei olwg e,” meddai Ifor Davies
Mae’r artist eisoes wedi paentio cyfres o bortreadau o dywysogion Cymru ac arwyr fel tri Phenyberth, Lewis Valentine, Saunders Lewis a DJ Williams. Ond mae’n cydnabod bod creu mosaig o nawddsant Cymru yn her.
“Wy wedi gwneud amryw fil o bortreadau ar bapur dros y blynyddoedd. Ond roedd yn lot o waith i’w gael e’n iawn.”
Darllenwch weddill y stori yng Nghylchgrawn Golwg, 16 Medi