Fe fydd un o nofelau mawr Daniel Owen ar gael yn y Seasneg am y tro cyntaf cyn hir.

Mi fydd The Trials of Enoc Huws yn cael ei chyhoeddi yng Ngŵyl Gelf a Llên Daniel Owen – gŵyl newydd i ddathlu bywyd a gwaith y nofelydd enwog o’r Wyddgrug.

Y bardd o Fanceinion, Les Barker, sy’n gyfrifol am gyfieithu’r nofel, ar gais un o drefnwyr yr ŵyl, John Mainwaring o’r Wyddgrug.

“Ro’n i wedi gweld y cerflun yn y dre ac wedi clywed yr enw,” meddai John Mainwaring. “Ond do’n i ddim yn gwybod pwy oedd o, beth wnaeth o. Mi wnes i syrthio mewn cariad gyda’i waith o pan wnes i ddarllen ei waith y tro cynta. Roedd yn sioc i mi fod y peth wedi cael ei gadw’n gyfrinach i mi trwy fy mywyd. Ro’n i eisiau cywiro’r peth.”

“Dw i wedi cael llawer o hwyl yn gwneud y cyfieithiad a dysgu sut i sgwennu nofel,” meddai’r cyfieithydd, Les Barker. “Dw i hefyd wedi dysgu sut i beidio â sgwennu nofel; mae e yn crwydro tipyn bach weithiau. Ond mae e wedi creu stori a chymeriadau anhygoel trwy’r nofel i gyd.”

Fe fydd Gwyl Daniel Owen eleni yn digwydd yn Y Pentan, capel Bethesda ac mewn mannau eraill yn yr Wyddgrug rhwng Hydref 17 a 23.

Darllenwch weddill y stori yng Nghylchgrawn Golwg, 16 Medi