Fe fydd cynlluniau am ysgol gynradd Gymraeg newydd yng ngogledd Wrecsam yn “helpu i ateb y galw” am addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal, meddai’r Cyngor heddiw.

Er bod ysgol Gymraeg yn yr ardal yn barod, sef Ysgol Plas Coch – mae’r ysgol honno’n llawn ac mae galw cynyddol am ragor o lefydd, meddai’r Cyngor.

Byddai’r ysgol Gymraeg a meithrinfa newydd gwerth £5.8miliwn yn cael eu hadeiladu yng Ngwersyllt.

“Mae galw cynyddol wedi bod gan rieni yng ngogledd Wrecsam sydd eisiau i’w plant gael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg,” meddai John Davies, Prif Swyddog Dysgu Cyngor Sir Wrecsam.

“Mae’r ysgol cyfrwng Cymraeg agosaf, Plas Coch yn llawn ac fe fydd yr ysgol newydd yn helpu i ateb y galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal.

“Bydd hefyd yn golygu na fydd rhaid i ddisgyblion deithio ar y bws a thacsi i fynd i ysgolion eraill yn y fwrdeistref sirol.”

Eisoes, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi rhoi £4.1 miliwn at y cynllun i’r godi’r ysgol Gymraeg a’r feithrinfa.

Cyfarfod

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Adran Addysg Cyngor Sir Wrecsam fod Bwrdd Gweithredol y Cyngor wedi “derbyn” eu bod “eisiau Ysgol Gymraeg.”

Ddydd Mawrth nesaf, bydd cyfarfod yn cael ei gynnal lle bydd Adran Addysg y Cyngor yn “dweud wrth y Bwrdd Gweithredol” eu bod wedi “cael yr arian ac eisiau mynd ymlaen a dechrau’r prosiect.”

Bydd hefyd mwy o drafodaeth am fanylion y cynllun.

Mae’r broses yn debyg o gymryd tua “dwy flynedd” – ond mae’n bosibl bydd modd “dechrau gweithio ar y safle yn ystod yr amser hwnnw,” meddai llefarydd ar ran yr Adran Addysg.

Cam

Roedd Cymdeithas yr Iaith yn croesawu’r cynlluniau am Ysgol Gymraeg.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran y Gymdeithas eu bod yn gweld hyn fel “cam tuag at sicrhau bod addysg Gymraeg yn dod yn norm i bob plentyn yng Nghymru.

“Yn union fel y bydd y Gymraeg yn norm yn yr Eisteddfod yn Wrecsam flwyddyn nesaf.”