Mae pump disgybl o Bontypridd wedi eu dethol i fynd i ymuno â’r Pab yn Abaty Westminster nos yfory, fel rhan o ymweliad y Pab Bened XVI â Phrydain.
Mae’r disgyblion wedi eu dewis i fynychu ar ran Urdd Gobaith Cymru – a dderbyniodd wahoddiad i ddathlu gweddi’r hwyrnos gyda’r Pab yn yr Abaty.
Steve Williams, Tomos Watkins, Elinor Thomas, Danielle Williams a Jarad Sainsbury yw’r pump fydd yn cynrychioli’r Urdd.
Mae’r pump yn edrych ymlaen yn fawr at y digwyddiad, meddai Tomos Watkins o Ffynnon Taf.
“Bydd cael bod yn rhan o’r achlysur yma yn Abaty Westminster yn wych,” meddai, “dydw i ddim wedi bod yn yr abaty o’r blaen, ac rwy’n edrych ymlaen at weld Llundain mewn gwedd newydd.”
Mae’r pump disgybl yn astudio Addysg Grefyddol Lefel A yn Ysgol Gartholwg ym Mhontypridd, ac wedi ymwneud â gweithgareddau’r Urdd yn y gorffennol.
Fe fydd swyddog o’r Urdd, Eleri Mai, hefyd yn mynd gyda’r disgyblion i weld y Pab. “Dydyn ni ddim yn siŵr iawn beth yn union i’w ddisgwyl yn Abaty Westminster nes y cyrhaeddwn ni, ond mae’r mesurau diogelwch yn hynod o llym.”
“Rydyn ni wedi cael cyfarwyddyd i fynd â dogfennau adnabod gyda ni, ac mae hyd yn oed cyfarwyddiadau ynglŷn â’r wisg y mae disgwyl i ni ei gwisgo,” meddai Eleri Mai.
“I’r bobl ifanc bydd y profiad yn un anhygoel ac rwy’n edrych mlaen yn fawr at fod yn rhan o’r achlysur hanesyddol.”