Mae Morgannwg wedi colli’r cyfle i gael dyrchafiad i Adran Gyntaf Pencampwriaeth y Siroedd ar ôl gêm gyfartal yn erbyn Swydd Derby yn Stadiwm SWALEC.
Roedd y pwysau ar y Dreigiau, a oedd yn ail, ar ôl Worcestershire, a oedd yn drydydd yn yr adran ar ddechrau’r chwarae, guro Sussex o bedair wiced gartref yng Nghaerwrangon.
Roedd tîm Matthew Maynard wedi gosod targed o 160 i Swydd Derby yn eu hail fatiad oddi ar o leia’ 37 pelawd.
Fe sgoriodd y Saeson 123-5 oddi ar 41.5 pelawd i sicrhau gêm gyfartal ac atal Morgannwg rhag dychwelyd i’r adran gyntaf. Ar y diwedd, roedden nhw bum pwynt y tu ôl i Swydd Caerwrangon.