Fe fydd cleifion canser yng Nghymru’n elwa o ddefnydd sganiwr newydd fydd yn gallu darganfod celloedd canser bychan iawn.

Mae’r sganiwr ‘PET’ gwerth miloedd o bunnoedd eisoes yn weithredol yng Nghaerdydd ac yn gallu dod o hyd i gelloedd canser ifanc.

Bydd yn galluogi i feddygon ddod o hyd i unrhyw diwmorau mewn cleifion ac asesu pa mor gyflym y mae’r canser yn lledu.

Mae hefyd yn gallu asesu pa mor actif yw tiwmor gan gynorthwyo doctoriaid â phenderfynu beth yw’r driniaeth fwyaf addas i gleifion.

Yn ôl y Ganolfan PET yng Nghaerdydd fe fydd y peiriant o fudd i “gannoedd o gleifion ar draws y wlad bobl blwyddyn”.

Cyn hyn, roedd yn rhaid i gleifion o Gymru deithio i Cheltenham neu hyd i ganolfannau pellach i ffwrdd.

Mae’r Ganolfan sydd wedi’i lleoli ym Mharc Iechyd Caerdydd yn cael ei gweithredu gan Brifysgol Caerdydd mewn cydweithrediad â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Fe gafodd y ganolfan £16.5 miliwn ei chyllido gan adrannau Iechyd, Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ac fe gafodd y sganiwr £1.8M ei adeiladu gan gwmni technoleg ryngwladol GE.

“Fe fydd sganiwr PET yn golygu bod meddygon yn gallu gwneud diagnosis cyflymach a mwy effeithiol – ac yn y pendraw fe fydd hynny yn golygu gwell canlyniadau i gleifion,” meddai’r Gweinidog Iechyd, Edwina Hart.