Mae gobeithion Morgannwg o ennill dyrchafiad i Adran Un Pencampwriaeth y Siroedd yn y fantol wrth i Swydd Caerwrangon agosâi at fuddugoliaeth yn erbyn Sussex.

Mae’r Dreigiau wedi gosod targed o 435 yn erbyn Swydd Derby ar ôl ail fatiad o 269-3.

Mae Swydd Derby wedi cyrraedd 39-3 yn eu hail fatiad, ac mae angen 121 o rediadau arnynt eto i ennill y gêm.

Ond gyda Swydd Caerwrangon yn agosâu at eu targed i ennill yn erbyn Sussex, mae’n edrych yn debyg y bydd yn rhaid i Forgannwg ennill eu gêm nhwythau.

Fe osododd Sussex targed o 502 i Swydd Caerwrangon i ennill y gêm ac maen nhw eisoes wedi cyrraedd 462 o rediadau ar ddiwrnod olaf y chwarae.