Cafodd milwr o Ben y Bont ar Ogwr ei ladd gan ffrwydrad yn Afghanistan wrth iddo baratoi i archwilio’r ardal am fomiau, clywodd cwest heddiw.
Lladdwyd yr Is-Gorporal Dane Elson, 22, pan safodd ar ffrwydryn pan oedd ar batrol yn nhalaith Helmand.
Roedd platŵn y milwr, a aned yn Zimbabwe, ond a oedd yn byw ym Mhen y Bont ar Ogwr, yn chwilio am wrthryfelwyr pan gafodd ei alw i’r blaen i helpu i chwilio am fomiau.
Roedd yr ardal eisioes wedi ei sgubo sawl tro y diwrnod hwnnw, heb ddod o hyd i ffrwydryn.
Clywodd y cwest nad oedd y datguddwyr metel a ddefnyddwyd wedi dod o hyn i’r ffrwydryn am nad oedd o wedi ei wneud o fetal.
Fe glywodd y cwest yn Aberdar fod y milwr o Fataliwn 1af y Warchodlu Gymreig wedi camu yn ôl i roi ei fag ar ei gefn pan safodd ar y ddyfais.
Yn ôl datganiad gan filwr arall ar batrôl, roedd golau llachar pan ffrwydrodd y bom.
“Fe gymrodd ei sach patrôl oddi ar ei gefn a’i roi ar y llawr i dynnu ei vallon allan,” meddai’r milwr a oedd yn dyst i’r ffrwydrad.
Wrth roi’r sach yn ôl ar ei gefn, fe gollodd Dane Elson ei gydbwysedd.
“Roedd y sach yn ymddangos yn drwm wrth i’r milwr gymryd cam neu ddau yn ôl i adennill ei falans…Ar ôl rhoi’r sach yn ôl ar ei gefn, fe gymrodd gam yn ôl ac yna daeth fflach fawr o olau o ble’r oedd y milwr wedi bod yn sefyll.
Clywodd y cwest fod Dane Elson wedi ei ladd ar unwaith yn y ffrwydrad ar Orffennaf 5 2009.
Dim diffygion offer na hyfforddiant
Clywodd y llys nad oedd dim nam ar offer y milwr, na diffyg yn safon yr hyfforddiant a dderbyniodd.
“Roedden ni’n gwybod ei fod e wedi cael yr hyfforddiant iawn, doedden ni ddim yn amau hynny,” meddai mam a llys-dad y milwr, “ond roedd cael cadarnhad o hynny yn y llys yn gysur.
“Ry’n ni’n gwerthfawrogi’r gefnogaeth ry’n ni wedi ei dderbyn oddi wrth y Fyddin yn fawr.”
Milwr brwd
Dywedodd yr Uwchgapten Andrew Speed fod Lans Corporal Elson yn awyddus iawn i fynd allan i Afghanistan. Pan dorrodd ei arddwrn fe gynigodd dorri’r plaster ac esgus ei fod wedi gwella fel na fyddai ei daith yn cael ei gohirio.
“Roedd yn filwr ymroddedig a ffyddlon i’r Warchodlu Gymreig ers pum mlynedd. Cafodd ei ddyrchafu ychydig cyn ei daith i Afghanistan. Roedd ganddo ddyfodol llewyrchus iawn o’i flaen.”