Mae Prif Weithredwr y sefydliad ymbarél sy’n cynrychioli pedwar rhanbarth Cymru wedi dweud ei fod o’n pryderu ynglŷn â chynnig i atal eu cynrychiolwyr rhag mynychu bwrdd Undeb Rygbi Cymru.

Dywedodd Rygbi Rhanbarthol Cymru bod y cynnig wedi cael ei gymeradwyo mewn cyfarfod o fwrdd yr undeb yr wythnos diwethaf gyda’r nod o atal cynrychiolwyr y rhanbarthau rhag ymuno â’r bwrdd.

Mae disgwyl penderfyniad terfynol mewn cyfarfod fis nesaf a bydd dros 200 o’r clybiau sy’n rhan o Uwchgynghrair Cymru yn pleidleisio.

“Mae’n destun siom a phryder fod yna gynnig i’n gwahardd ni o fwrdd Undeb Rygbi Cymru,” meddai Stuart Gallacher o Rygbi Rhanbarthol Cymru.

“R’yn ni’n gwerthfawrogi y bydd yna drafodaethau mewn cyfarfodydd yn y dyfodol na fyddwn ni’n gallu cymryd rhan ynddynt.

“Am y rheswm yna r’yn ni wedi dweud ein bod ni’n ddigon hapus i beidio bod yn bresennol adeg trafodaethau o’r math.

“Ond fe fyddai ein cadw allan yn gyfan gwbl ddim er lles y gêm ac fe fyddai’n gam ‘nôl i rygbi Cymreig.”

Mewn datganiad ar y cyd fe ddywedodd y rhanbarthau y byddai y cynnig yn eu hatal rhag “cynrychioli budd chwaraewyr a chefnogwyr o fewn y gêm ranbarthol”.

“Fe fyddai atal rygbi rhanbarthol rhag cael llais ar brif fwrdd Undeb Rygbi Cymru lle mae materion allweddol sy’n effeithio ar rygbi Cymru yn cael eu trafod ddim yn gwneud lles i’r gêm yn yr hir dymor,” meddai Rygbi Rhanbarthol Cymru.

Fe fydd cyfarfod cyffredinol blynyddol Undeb Rygbi Cymru yn cael ei gynnal ar 10 Hydref ac fe fydd cyfle gan gynrychiolwyr clybiau rygbi Cymru i bleidleisio ar y mater.