Mae Nathan Cleverly wedi dweud y bydd yn taro ei wrthwynebydd diweddaraf yn fflat ar ei gefn ar y cynfas cyn diwedd rownd olaf eu gornest yn Birmingham nos Sadwrn.

Fe ddywedodd y Pencampwr Ewropeaidd y bydd yr Almaenwr, Karo Murat yn siŵr o golli yn ei erbyn.

Bydd rhaid i record ddiguro un o’r bocswyr ddod i ben yn yr LG Arena dros y penwythnos.

Fe fydd yr enillydd yn cael y cyfle i herio pencampwr y byd Jurgen Brahmer, sydd hefyd o’r Almaen.

Ond fe allai’r ornest rhwng Cleverly a Murat benderfynu pwy fydd pencampwr is-bwysau trwm y byd, gan fod ‘na amheuon am yrfa bocsio Brahmer ar ôl iddo gael ei ddedfrydu i 16 mis o garchar yn dilyn ymosodiad.

‘Bocsiwr llawn amser’

Dyma fydd gornest gyntaf Nathan Cleverly ers iddo guro Antonio Brancalion er mwyn cipio coron Ewrop yn Llundain ym mis Chwefror.

Fe fydd y Cymro o Gefn Fforest hefyd yn ymladd am y tro cyntaf ers cael gradd Mathemateg o Brifysgol Caerdydd dros yr haf.

“Rwy’n focsiwr llawn amser nawr ac rwy’n gallu paratoi a chanolbwyntio’n well. Rwy’n addo dinistrio Murat nos Sadwrn,” meddai Nathan Cleverly.

“Fydd e erioed wedi teimlo ergydion mor galed â’r rhai fyddai’n eu taflu. Mae fy mhŵer i’n cynyddu gyda phob gornest ac mae Murat yn mynd i deimlo’r boen.

“Ond rwy’n gobeithio y bydd o’n gallu gwrthsefyll yr ergydion yn ddigon hir i sicrhau bod y dorf yn cael gweld cwpl o rowndiau.”

Murat yn hyderus

Ond mae Karo Murat yn ffyddiog y bydd o’n sicrhau’r fuddugoliaeth a’r cyfle i gipio coron y byd.

“Fe gaiff Cleverly siarad ond fe gawn ni weld pwy fydd yn ennill ar y noswaith,” meddai Murat.

“Rydw i wedi cael sesiynau ymarfer gwych ac yn teimlo’n dda. Rwy’n hyderus y byddai’n gallu ennill yr ornest.”