Mae prosiect adfywio ardal Cei Llechi yng Nghaernarfon wedi cael ei agor yn swyddogol heddiw (dydd Gwener, Mehefin 17) gan Dafydd Wigley.

Dyma brosiect adfywio gwerth £5.9m sydd wedi cael ei arwain gan Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon mewn partneriaeth â Galeri Caernarfon.

Mae’r gwaith o adfywio wedi gweld Swyddfa’r Harbwr yn cael ei adnewyddu a’r unedau ac adeiladau oedd wedi dirywio yn sylweddol yn dod yn ôl i ddefnydd.

Hanes y cei

Mae cei wedi bod yng Nghaernarfon ers 1611.

Gwelwyd y datblygiad mwyaf o 1780 ymlaen wrth i ddiwydiannau amrywiol leoli lawr yn yr ardal megis biniau (copr, plwm, glo), iardiau (llongau a choed), odynnau calch a ffowndrïau.

Daeth y cei yn rhan bwysig o drafnidiaeth yr ardal wrth i gysylltiad uniongyrchol gael ei chreu gyda chwareli Nantlle yn 1828 a gyda’r rhwydwaith rheilffyrdd cenedlaethol yn y 1860au.

Mae’r casgliad o adeiladau sydd yn ffurfio Cei Llechi heddiw wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd, o ran defnydd, yn swyddfeydd, gweithdai, siop gof, iard lo, garej, tŷ coets, siediau a storfeydd.

Roedd Cei Llechi yn gartref i swyddfa De Winton, cwmni peirianneg enwocaf Caernarfon a phrif gyflenwr offer i chwareli llechi gogledd Cymru.

Gyda’r safle wedi ei esgeluso, fe aeth perchnogion y safle, Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon, ati i edrych ar opsiynau o ran beth oedd yn bosib ei wneud yng Nghei Llechi gyda chyfres o adeiladau oedd mewn cyflwr mor wael.

“Roedd mwyafrif yr adeiladau mewn cyflwr gwael iawn ac wedi dod yn embaras i’r Ymddiriedolaeth Harbwr ac yn wir i’r dref o ystyried bod y lleoliad mor agos at Gastell Caernarfon sy’n  Safle Treftadaeth y Byd,” meddai Ioan Thomas o Ymddiriedolaeth Harbwr Caernarfon.

“Fe wnaethom fel Ymddiriedolaeth ystyried nifer o opsiynau ar gyfer y safle dros gyfnod hir a sut oedd modd dod â’r hen gei llechi yn ôl yn fyw ond hefyd ddathlu gorffennol Caernarfon.

“Cawsom wybodaeth am Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar gyfer prosiectau a oedd yn cyfuno gwaith adfer â menter i ddod ag adeiladau yn ôl yn fyw, yn benodol i ddefnydd masnachol. Rydym yn hynod ddiolchgar i’n holl gyllidwyr am eu cefnogaeth oedd yn hanfodol i gwblhau’r prosiect.

“Mae gennym bellach ddatblygiad gwych Cei Llechi sy’n gyfle i arddangos talent leol a chreu cyfleoedd a swyddi newydd, yn ogystal â darparu ardal ddeniadol ar lan Afon Seiont i’r gymuned leol ac ymwelwyr ei mwynhau.”

Ailddatblygu

Dechreuodd y trafodaethau a chynllunio ar gyfer yr ailddatblygiad yn 2012.

Yn dilyn cyfnod o ymgynghori, cynllunio a sicrhau cyllid drwy ffynonellau megis Llywodraeth Cymru, Cadw, Cyngor Gwynedd ac yn bennaf – £3.56m o Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, dechreuodd y gwaith o glirio a pharatoi’r safle ym mis Hydref 2018.

“Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd Cei Llechi yn helpu i gynnal swyddi; cefnogi twf economaidd; ysgogi twristiaeth a helpu i atgyfnerthu’r ymdeimlad cryf o falchder sy’n bodoli yn lleol yn nhreftadaeth unigryw Caernarfon,” meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.

“Mae Cei Llechi yn darparu mannau gwaith creadigol newydd ac yn cyflwyno hanes a threftadaeth rôl Caernarfon yn y diwydiant llechi yn y 1800au a’i arwyddocâd yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

“Rydym wedi ymrwymo i gefnogi treftadaeth gyfoethog a bywiog Cymru. Mae ein rhaglen Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn cefnogi prosiectau sy’n cysylltu pobl a chymunedau â’u treftadaeth ac mae hon yn enghraifft wych o ddod o hyd i ddefnyddiau newydd ar gyfer hen fannau.”

Mae’r Cei Llechi newydd yn gyfuniad o 19 uned gwaith a manwerthu, llety hunan arlwyo, ystafell gyfarfod sydd ar gael i’w llogi a hefyd gofod dehongli a chyflwyno hanes a threftadaeth Cei Llechi a’i phwysigrwydd yn hanesyddol.

Mae’r pwyslais felly ar ddod a diwydiant nol i’r ardal bwysig hon o Gaernarfon, boed hynny ar ffurf gwahanol i’r hen ddyddiau.

‘Rhan o stori bwysig’

“Mae datblygiad Cei Llechi yn rhan o stori bwysig wrth ddatblygu Caernarfon fel cyrchfan,” meddai Vaughan Gething, Ysgrifennydd Economi Cymru.

“Mae clwstwr o brosiectau fel hyn yn adlewyrchu ffocws Llywodraeth Cymru ar ddatblygu cyrchfanau o safon uchel, sydd yn cyfrannu ar weithgaredd drwy’r flwyddyn ac yn creu effaith economaidd bositif mewn tref fel Caernarfon ac ymhellach lawr y gadwyn gyflenwi a gwariant gan ymwelwyr.

“Mae Cei Llechi yn brosiect adfywio unigryw ac arloesol sydd yn gweld defnydd unwaith eto mewn lleoliad oedd wedi ei anghofio a’u esgeluso. Drwy gynhyrchu, manwerthu, cyflwyno hanes a llety, mae gan Cei Llechi bellach bwrpas newydd sydd yn dod a rhan o’r dref oedd wedi’i anghofio efallai mewn i ddefnydd tra’n hyrwyddo cynnyrch a profiad o Gymru newydd.”

Erbyn heddiw, mae 70% o’r unedau wedi’u cymryd gan fusnesau amrywiol megis cynhyrchwyr bwyd, bwyty, artistiaid celf, gof a  crefftwyr sydd yn cyflogi dros 30 o staff ar y safle.

“Rydym ni wedi bod yn bartner ar y prosiect yma ers y dechrau,” meddai Gwyn Roberts, prif weithredwr Galeri.

“Yn ystod y cyfnod cynllunio ac adeiladu, roeddem yn cydweithio yn agos iawn gyda Ymddiriedolaeth yr Harbwr ac yn defnyddio ein profiad o weithredu prosiectau cyfalaf ac adfywio mawr yn llwyddianus.

“Ers gorffen y gwaith adeiladu, ni fel menter gymdeithasol sydd yn gyfrifol am reoli y safle fel prif denant. Yn amlwg mae Covid a’r sefyllfa economaidd wedi amharu o ran gallu llenwi’r lle – ond mae sawl ymholiad yn ein cyrraedd yn wythnosol, a’n gobaith ydy bod yn llawn erbyn diwedd y flwyddyn.”