Yn ei cholofn i’r Daily Mail, mae Janet Street-Porter wedi lladd ar Gymru, y Gymraeg a siaradwyr Cymraeg, gan fynnu bod yr iaith wedi cael ei gorfodi arni “o fore gwyn tan nos” pan ymddangosodd hi yn y gyfres Cariad@iaith ar S4C.
Mae’r golofn yn sôn am y drafodaeth a fu ynghylch ailfrandio Cymru, rhywbeth mae’r sylwebydd yn dweud sydd “mor ddi-bwys ag ailfrandio Boris neu Randy Andy” (y Tywysog Andrew, Dug Caerefrog).
Mae’r golofn yn dechrau drwy ddweud bod y diwydiant lletygarwch o’r farn fod gan Gymru “broblemau â’i delwedd”, a bod “unrhyw sôn am y wlad yn creu delweddau negyddol o ddefaid, tywydd gwlyb a rygbi”.
Wrth ddweud bod Cymru’n methu gwerthu ei hun yn yr un ffordd â’r Alban neu Iwerddon, mae hi’n pwysleisio bod awgrymiadau penaethiaid y diwydiant yn cynnwys “mwy o bwyslais ar yr iaith Gymraeg”.
“Rhag i fi swnio’n hiliol (dw i’n hanner Cymraes), mae ailfrandio’r lle fel gwlad fach hapus sy’n croesawu ymwelwyr â breichiau agored yn dasg sydd bron yn amhosib na fydd pentwr o arian yn ei newid,” meddai’n ddi-flewyn-ar-dafod.
“Mae dau ddyn ym Mhrydain y mae eu henw da yn deilchion, ac y mae’n rhaid eu bod nhw’n dargedau ar gyfer banditiaid ailfrandio – y Tywysog Andrew a Boris Johnson.
“Mae Cymru’n wlyb. Mae’n llwm. Dydy’r bobol gafodd eu geni yng Ngogledd Cymru (fel fy niweddar fam a’i theulu) ddim yn ystyried unrhyw un i’r de o Gaernarfon fel Cymry go iawn, jyst yn is-adran o Loegr.
“Mae’r iaith Gymraeg yn annealladwy ac yn un o’r ieithoedd mwyaf anodd yn y byd i’w meistroli mewn cyfnod byr o amser.
“Dw i’n gwybod, wedi fy magu ar aelwyd lle’r oedd fy mam, fy modryb (oedd yn byw gyda ni) a’r bwji i gyd yn siarad Cymraeg o flaen fy nhad, fy chwaer a fi – bob un diwrnod am 15 mlynedd.”
Cariad@iaith? Go brin!
Mae’r golofn wedyn yn troi at Cariad@iaith, y rhaglen ar S4C sy’n gofyn bod enwogion yn treulio amser yn Nant Gwrtheyrn ar gwrs dwys i ddysgu Cymraeg.
Ond mae Janet Street-Porter yn dweud iddi gael ei “chloi mewn pentref Cymreig diarffordd am wythnos” lle cafodd gwersi Cymraeg eu “gorfodi” arni “o fore gwyn tan nos”.
“Ar ddiwedd dwsinau o oriau o hyfforddiant dwys, ro’n i jyst â bod yn gallu archebu coffi, gofyn lle’r oedd y gwesty pum seren agosaf a bwcio tacsi,” meddai.
“Treuliais i bob gwyliau ysgol hyd at 16 oed gyda fy Nain mewn pentref bach yng Ngogledd Cymru.
“Mae tri gair yn crisialu’r profiad. Sglefren fôr. Glaw. Clecs. Yn fras, diflastod.
“Awyr lwyd. Capeli gwenithfaen llwyd. Môr llwyd.”
Cymunedau Cymru
Er ei bod hi’n canmol tirwedd Cymru o Gaerdydd i Gonwy, mae hi’n cwyno am “ddiffyg bwyd da” a’r “tafarnwyr a pherchnogion gwestai diflas tu allan i’r dinasoedd mawr”.
Ond mae hi’n mynd yn ei blaen wedyn i ddweud bod yna “agwedd eich bod chi (fel ymwelydd) yn blydi anghyfleustra”, gan ofyn “pam dewis Cymru pan allwch chi chwerthin yn Iwerddon a chael croeso twymgalon yn yr Highlands?”
Mae’n dweud nad oedd ei mam na’i nain yn “ymddiried yn eu cymdogion”, bod pobol yn rhoi ffugenwau cas ar ei gilydd, bod ei hewythrod – un yn bregethwr a’r llall yn palu beddau – yn “casau ei gilydd” a bod un o’u meibion “wedi gadael i fyw yn y Dwyrain Pell cyn gynted ag y gallai”.
Mae hi’n mynd mor bell â chwyno bod angladd ei mam yn Gymraeg “er nad ydw i na fy chwaer yn siaradwyr”.
Ailfrandio’r wlad “yn syniad doniol”
Wrth droi’n ôl at bwrpas gwreiddiol y golofn, dywed Janet Street-Porter wedyn ei fod yn “syniad doniol” fod modd ailfrandio Cymru.
“Gallwch chi newid enw Cymru, gallwch chi ei ysgrifennu fe mewn llawysgrifen ffug-ganoloesol, gallwch chi bwysleisio profiadau zipwire trendi, pice ar y mân gwymon wedi’u dylunio, cwrw crefft a sanau o gennin wedi’u gweu, ond allwch chi ddim dianc rhag y ffaith fod Cymru – yn nhermau hysbysebu – yn anodd i’w gwerthu,” meddai.
“Mae ailfrandio fel arfer yn cael ei ddefnyddio pan fo rhywun neu rywbeth y tu hwnt i help. Ateb terfynol.
“Cafodd ailfrandio ei ddyfeisio gan y diwydiant hysbysebu i geisio masnach a chynhyrchu mwy o incwm.
“Mae’n anwiredd modern y bydd ‘ailfrandio’ unrhyw beth yn ei wneud e’n fwy chwaethus.”
Mae’r golofn yn gorffen drwy gysylltu Cymru unwaith eto gyda ffaeleddau Boris Johnson a’r Tywysog Andrew.
“A yw e [Boris Johnson] wir mor ‘arbennig’ â hynny, neu a ddylai ei ffaeleddau – fel rhai’r Tywysog Andrew – gael eu gwobrwyo â sawl wythnos yng Ngogledd Cymru wlyb a gwyntog?”